Cronfeydd Cefnogi (SPF)

Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, mae oddeutu £20m wedi ei glustnodi ar gyfer sir Gwynedd gyda peth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu Cronfeydd ar gyfer cefnogi prosiectau yn y maes Adfywio. Fel rhan o’r cynllun mae Cyngor Gwynedd yn agor 3 Cronfa;

  1. Cronfa Cefnogi Adfywio
  2. Cronfa Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif
  3. Cronfa Cefnogi Busnes

Mae’r Cronfeydd Cefnogi Adfywio, Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol â threfnwyr digwyddiadau) i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i gefnogi prosiectau fydd yn gwella ansawdd trigolion a chymunedau’r Sir, ar sail cyflwyno ceisiadau.

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i’r cronfeydd Adfywio, Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif yw 5pm 14 o Orffennaf 2023.

Os ydych yn fusnes neu yn fenter gymdeithasol gall y gronfa Cefnogi Busnes fod o ddiddored. Gallwch dderbyn manylion pellach am y gronfa yma drwy’r fynd i dudalen Grantiau a Chymorth ariannol i Fusnesau.

Noder gellir geisio am arian o fwy na un gronfa, os yw’r ceisiadau ar gyfer prosiectau cwbl wahanol. NI ELLIR ceisio am arian drwy fwy na un cronfa ar gyfer yr un prosiect. 

Canllawiau

Canllawiau Byw'n Iach ac Actif

Canllawiau Cronfa Diwylliant

Cronfa Cefnogi Digwyddiadau

Trothwyon Caffael

Telerau ac Amodau

 

Gwneud Cais

Ffurflen Gais

Ffurflen Gais

Rheolau Cymhorthdal

Rheolau Cymhorthdal

 

Cwblhewch a dychwelwch y 2 ffurflen uchod i cronfacefnogidiwyllesiant@gwynedd.llyw.cymru

 

Cronfa Cefnogi Digwyddiadau: Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer digwyddiadau sydd i’w cynnal yn ystod 2023 bellach. Byddwn yn agor ail rownd maes o law i  dderbyn ceisiadau ar gyfer digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn ystod 2024.