Cronfa Cynlluniau Bwyd
Canllawiau Grant Cynlluniau Bwyd a Croeso Cynnes
Grant Refeniw Bwyd
Rydym yn gwahodd ceisiadau am arian grant tuag at gynlluniau bwyd a bwydo sy’n cyflawni un neu fwy o’r canlynol
- Ymateb i gynnydd mewn galw am fwyd argyfwng gan drigolion (darparu pecynnau o fwyd am ddim mewn argyfwng)
- Cefnogi pobl i gael mynediad i fwyd iach a fforddiadwy (clybiau bwydo am gyfraniad; pecynnau bwyd ‘Fare Share’ am gyfraniad)
- Ymateb i gynnydd mewn galw am nwyddau hanfodol gan drigolion
- Ymateb i gynnydd mewn costau rhedeg darpariaeth fwyd gymunedol / banc bwyd
- Lleihau ac ail-ddosbarthu bwyd i arbed gwastraff
Gall eitemau gwariant cymwys gynnwys y canlynol (ond nid yw hwn yn rhestr cynhwysfawr) :-
- Refeniw – Prynu cyflenwadau o fwyd a nwyddau hanfodol
- Refeniw – cyfraniad at gostau rhedeg cynllun bwyd cymunedol
- Refeniw – cyfraniadau tuag at gynnal cynlluniau bwydo sy’n darparu bwyd (clybiau cinio / swper)
- Refeniw – costau rhedeg, cydlynu a rheoli cynlluniau
- Refeniw – cyfraniad tuag at gost aelodaeth FareShare
- Refeniw – costau hyfforddiant i wirfoddolwyr mentrau bwyd
Uchafswm grant sydd ar gael
- Byddwn yn ystyried ceisiadau hyd at £3,000
Sut i wneud cais
Gwahoddir geisiadau gan grwpiau cymunedol, elusennau, cynghorau cymuned a thref, a mudiadau gwirfoddol. Cyflwynwch y ffurflen gais i - cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflen Gais
Dyddiad Cau
Nid oes dyddiad cau. Fe fydd y gronfa ar agor hyd nes bydd yr arian wedi ei ddyrannu.
Help gyda’ch cais
Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar gael i gynnig arweiniad i chi. Mae manylion y swyddogion hyn isod:
Dalgylch Bro Peris, Bro Lleu, /Nantlle/Bro Ffestiniog markgahan@gwynedd.llyw.cymru
Dalgylch Caernarfon, / Bangor a Bro Ogwen dafyddeinionjones@gwynedd.llyw.cymru
Dalgylch Pwllheli a Penllŷn alyslloydjones@gwynedd.llyw.cymru
Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau annalewis@gwynedd.llyw.cymru
Bala Penllyn, Rhydymain a Dinas Mawddwy huwanturedwards@gwynedd.llyw.cymru
Porthmadog a Phenryn markgahan@gwynedd.llyw.cymru lindseyellisedwards@gwynedd.llyw.cymru