Ôl-ddyddio eich cais

Yn arferol bydd cais am Ostyngiad Treth Cyngor yn cael ei dalu o’r dyddiad iddo gael ei dderbyn. Fodd bynnag, yn achlysurol, bydd rhai cwsmeriaid yn dymuno iddo gael ei dalu o ddyddiad cynharach, h.y. isio i ni ôl-ddyddio eu gostyngiad. 

Mae ôl-ddyddio yn bosib weithiau, a hynny ond mewn amgylchiadau cyfyngedig, felly mae bob amser yn well gwneud cais cyn gynted ag sydd bosib. Er enghraifft, peidiwch ag oedi am nad ydych yn gallu cael y dystiolaeth angenrheidiol. Anfonwch y cais i ni, gan ddarparu’r dystiolaeth nes ymlaen, ond gan ofalu gwneud o fewn mis.

Os ydych angen i ni ôl-ddyddio eich gostyngiad, mae’r rheolau ynglŷn â phryd y cawn ôl-ddyddio yn wahanol i wahanol grwpiau o bobl. Mae’n dibynnu os ydych wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd  Pensiwn y Wladwriaeth. Gellir gweld y dyddiad y byddwch yn cyrraedd yr oedran cymhwyso ar wefan y Llywodraeth. Edrychwch am y dyddiad y byddwch yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn, dim y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

  • Cwsmeriaid oed Credyd Pensiwn (sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) - gellir ôl-ddyddio Gostyngiad Treth Cyngor iddynt hyd at dri mis cyn dyddiad eu cais. Os oedd eich amgylchiadau'r un fath dri mis cyn i chi wneud y cais ac yr oeddynt pan wnaed y cais, cysylltwch â ni i drafod ôl-ddyddio.
  • Cwsmeriaid oed gwaith (heb gyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd  Pensiwn y Wladwriaeth) – gellir hefyd ôl-ddyddio Gostyngiad Treth Cyngor iddynt hyd at dri mis cyn dyddiad eu cais. 

Fodd bynnag, ac yn wahanol i geisiadau oed pensiwn, bydd raid i chi ddangos fod gennych reswm da dros beidio gwneud cais ynghynt. Mae hyn yn cael ei alw’n “good cause” (achos da) o fewn y rheoliadau perthnasol. 

Mae’n ofynnol arnoch chi i ddangos fod gennych achos da drwy gydol y cyfnod rydych yn gofyn i ni ôl-ddyddio. Nid oes raid i’r rheswm fod yr un fath drwy gydol y cyfnod.

Dyma rai o’r rhesymau y gellid eu defnyddio i ddangos “achos da” 

  • Roeddech mor wael (corfforol neu feddyliol), neu’n methu gweithredu am ryw reswm arall, nad oeddech yn gallu gwneud cais neu ofyn i rywun arall wneud cais ar eich rhan.
  • Eich bod wedi derbyn cyngor drwg neu anghywir am fudd-daliadau gan rywun y dylech allu dibynnu arnynt i roi cyngor cywir, megis y Cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu asiantaeth cynghori.
  • Yr oedd gennych reswm da dros gredu na allech hawlio
  • Roedd rhywbeth nad oedd gennych unrhyw reolaeth drosto yn eich atal rhag gwneud cais, megis streic bost neu eich bod yn y carchar.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, dim ond rhestr o'r mathau mwyaf cyffredin o resymau. Bydd disgwyl i chi egluro eich rhesymau yn llawn gan roi tystiolaeth i gefnogi'r hyn a ddywedwch wrthym.

Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.