Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid

Help gyda chostau olew gwresogi a nwy petrolewm hylifol (LPG) (2026)

Os ydych chi'n gymwys am y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) am eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.  

 

Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?

Os ydych eisoes yn derbyn CTRS ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa fath o danwydd gwresogi rydych chi'n ei ddefnyddio trwy roi bil i ni sydd hyd at 12 mis oed a darparu manylion banc.

Os nad ydych chi'n derbyn CTRS, mae manylion pwy sy'n gymwys a sut i wneud cais yma:

 

Faint o amser sydd gen i i wneud cais?

Rhaid eich bod yn derbyn CTRS, neu wedi gwneud cais llwyddiannus am CTRS, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Dylech wedyn wneud cais am y cymorth olew gwresogi a LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.

 

Gwneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio'r ffurflen isod:

Gwneud cais: Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid

Gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o'ch anfoneb neu dderbynneb olew gwresogi o'r 12 mis diwethaf a chopi o ddatganiad banc sy'n dangos eich manylion banc yn glir.

 

Mwy o wybodaeth

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu'ch biliau neu wresogi eich cartref, cysylltwch gyda ni: