Banciau Bwyd a Mentrau Bwyd Cymunedol

Mae Banciau Bwyd ar draws Gwynedd yn darparu bocsys bwyd argyfwng i bobl a theuluoedd sydd mewn angen.

Gallwch gael help gan fanc bwyd drwy dderbyn taleb gan weithiwr sy’n eich helpu, neu drwy fynd i’r banc. Mae taleb yn caniatáu i chi gael bwyd argyfwng gyfwerth a 3 diwrnod yn arferol ar gyfer chi a’ch teulu. Mae Gweithwyr Cymdeithasol, Tai, Addysg, Budd-daliadau i gyd yn gallu rhoi taleb banc bwyd i drigolion. Nid yw cael taleb yn hanfodol i bob banc bwyd.

Os ydych chi angen y gwasanaeth cysylltwch â'ch Banc Bwyd lleol:


Banc Bwyd Cadeirlan Bangor
Canolfan yr Esgobaeth, Cathedral Close, Bangor, LL57 1RL (y tu ôl i’r Eglwys Gadeiriol). Gweld manylion banc bwyd Cadeirlan Bangor 

Cyfeiriadau i’w hanfon drwy e-bost i  lesley.beckton@yahoo.co.uk cyn 1.30pm ar ein diwrnodau agor os gwelwch yn dda (Llun, Mercher, Gwener).


Banc Bwyd Arfon
Canolfan Gwyrfai, Lôn Cae Ffynnon, Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD. 
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â info@arfon.foodbank.org.uk ,ffoniwch 01286 673355 neu ymweld â'r dudalen Facebook.

 

Y Bermo
Ffordd y Brenin, Bermo, LL42 1AD 
Am wybodaeth bellach, ffoniwch 07973 914599 neu cysylltwch â info@southgwynedd.foodbank.org.uk

Neu ewch i southgwynedd.foodbank.org.uk


Porthmadog, Penrhyndeudraeth, Bala, Dolgellau a Thywyn
Mae parseli bwyd brys ar gael i'w casglu o Borthmadog, Penrhyndeudraeth, Bala, Dolgellau a Thywyn – am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Banc Bwyd Ffestiniog
Neuadd yr Eglwys, Heol yr Eglwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3HB (gyferbyn â Chanolfan Tan y Maen). Bydd angen mynd i swyddfa Dref Werdd i gael atgyfeiriad i’r Banc Bwyd.  Am wybodaeth bellach, ffoniwch 07435 290553 neu ymweld â'r dudalen Facebook.

 

Banc Bwyd Pwllheli
Eglwys San Pedr, Pwllheli, LL53 5DS.  Am wybodaeth bellach, cysylltwch â pwllhelifoodbank@gmail.com neu ffoniwch 07359356383 neu ymweld â'r dudalen Facebook.

 

Pantris Bwyd

Mae Pantri Bwyd (hefyd yn cael eu galw yn gynllun porthi, cynllun fareshare neu enwau tebyg eraill) fel arfer yn dosbarthu bwyd sy’n weddill gan archfarchnadoedd a siopau i drigolion lleol.

Nid yw Pantri Bwyd yn cael ei adnabod fel 'bwyd argyfwng', ond gall fod yn hanfodol i rai cartrefi fel ffordd o gael bwyd fforddiadwy. Mae rhai ohonynt yn pecynnu a dosbarthu’r bwyd i gartrefi, mae eraill yn gwahodd trigolioni ddod i gasglu bwyd o adeilad yn y gymuned. Mae rhai yn rhoi’r bwyd am ddim ac eraill yn codi ffi fechan £3-5 am fagiad o fwyd.

Mae Pantri Bwyd wedi eu sefydlu i arbed bwyd gweddilliol rhag mynd yn wastraff, ac atal y bwyd hwnnw rhag mynd i dirlenwi.