Adrodd am dwyll budd-daliadau

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu Budd-dâl Tai a Gostyngiad Treth Cyngor i drigolion Gwynedd sydd ymysg y mwyaf bregus ac anghenus o fewn cymdeithas.

Mae rhai unigolion neu grwpiau a fydd yn ceisio derbyn budd-daliadau nad ydynt yn gymwys iddynt. Ar rai achlysuron, gwneir hyn gyda bwriad a gydag elfen o gynllunio ymlaen llaw, neu fel canlyniad i fethiant anonest i hysbysu'r Cyngor o newid yn eu hamgylchiadau.

Bydd y Cyngor yn parhau i ddelio gyda ceisiadau am fudd-daliadau, ond mae’r gwasanaeth sy’n ymchwilio i dwyll budd-dal yn rhan o Adran Gwaith a Phensiynau y Llywodraeth.

Os ydych yn amau fod rhywun yn twyllo'r system fudd-daliadau, gallwch adrodd am hyn drwy gwblhau’r ffurflen ar wefan y Llywodraeth. Nodwch os gwelwch yn dda mai tudalen ar wefan y tu allan i’r Cyngor yw hwn, ac nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ei gynnwys.
'www.gov.uk/hysbysu-twyll-budd-daliadau'

Gallwch hefyd roi gwybod am amheuaeth o dwyll Budd-dal Tai mewn ffyrdd eraill:


Ffôn

Cysylltwch â’r Llinell Frys Twyll Budd-daliadau Genedlaethol 0800 678 3722, neu 0800 854 4400 am wasanaeth Saesneg. Bydd eich galwad yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol ac nid oes yn rhaid i chi roi eich enw neu'ch cyfeiriad. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:00am a 6.00pm.

Os oes gennych broblemau lleferydd neu glyw, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffon testun ar 0800 328 0512.


Post

NBFH, PO Box 224, Preston PR1 1GP

 

Datganiad preifatrwydd