Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC) yw’r mynegai swyddogol ar gyfer mesur amddifadedd mewn rhannau bychain o Gymru. Mae'n ddull o fesur dwysedd yr amddifadedd ar lefel ardaloedd bach.

Mae mwy i amddifadedd na thlodi yn unig. Golyga tlodi brinder arian, ond mae amddifadedd yn cyfeirio at broblemau ehangach a achosir gan brinder adnoddau a chyfleoedd.  Mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol fath ar amddifadedd, fel a ganlyn:

  • incwm
  • tai
  • cyflogaeth
  • mynediad at wasanaethau
  • addysg
  • iechyd
  • diogelwch cymunedol
  • yr amgylchedd ffisegol

Rhannwyd Cymru'n 1,909 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ac mae tua 1,600 o bobl ymhob ardal.  Trefnwyd pob un o'r ardaloedd hyn yn ôl lefel yr amddifadedd: caiff yr LSOA fwyaf amddifad ei rhoi'n 1, a'r lleiaf amddifad ei rhoi'n 1,909.  Caiff un ardal ei gosod ar lefel amddifadedd uwch nag un arall os oes cyfran uwch o bobl yn byw yno sy'n cael eu cyfri'n amddifad. 

Nid yr ardal ei hun sy'n amddifad ond amgylchiadau a ffordd o fyw pobl yr ardal a dyna sy'n cyfrif am y raddfa amddifadedd. Mae'n bwysig cofio nad pobl amddifad yw pob un sy'n byw mewn ardal o amddifadedd, ac nad mewn ardal o amddifadedd yn unig y mae pobl amddifad yn byw.

Mae MALlC yn addas at ddibenion lle mae diddordeb mewn ardaloedd sydd â dwysedd uchel o amddifadedd.  Caiff ei ddefnyddio i:

  • roi graddfa gyffredinol o amddifadedd i bob un o'r 1,909 LSOA yng Nghymru
  • rhoi graddfeydd ar gyfer y gwahanol feysydd o amddifadedd ym mhob LSOA
  • cymharu'r graddfeydd amddifadedd mewn dwy neu ragor o'r LSOA
  • cymharu dau awdurdod lleol neu ragor (neu grwpiau eraill o LSOA) drwy edrych ar gyfran yr LSOA yn yr awdurdod lleol yn (dyweder) y 10 y cant mwyaf amddifad yng Nghymru.

Ni ellir defnyddio'r mynegai i:

  • fonitro newid dros gyfnod
  • dweud faint yn fwy amddifad y mae un ardal o gymharu ag un arall
  • crynhoi i ddaearyddiaeth wahanol drwy gyfrif cyfartaledd graddfeydd yr LSOA sy'n rhan o'r ddaearyddiaeth honno.

I weld y lefelau o amddifadedd yng Ngwynedd yn ôl pob parth ewch i: 

 

Gwybodaeth bellach