Symud i Wynedd, Dysgu Cymraeg a Phrofiadau Dysgwyr

Wedi symud i Wynedd yn ddiweddar?

Darllena ein e-lyfr Cyflwyniad i Iaith a Diwylliant Gwynedd er mwyn dysgu mwy am yr iaith Gymraeg a’i lle ym mywyd pob dydd trigolion y sir ‐ ym myd addysg, yn y gwaith ac yn y gymuned. 

E-lyfr Cyflwyniad i Iaith a Diwylliant Gwynedd 

 

Profiadau dysgwyr

Dyma dri fideo ‘Dysgu a Mwynhau yn Gymraeg’ sy’n adrodd profiadau dysgwr Cymraeg: 


Beiciwr mynydd sydd hefyd yn rhedeg bwthyn gwyliau yw Alex, a ddysgodd Gymraeg er mwyn gallu teimlo’n rhan o gymuned leol Y Bala.

 

Mae Carrie’n rhedeg busnes ‘Cosyn Cymru’ yn cynhyrchu caws ym Methesda. Dysgodd Carrie Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei mab ifanc a bellach mae Carrie’n defnyddio’r iaith bob dydd yn ei gwaith ac fel arall.

 

Un o Birmingham yw Ann yn wreiddiol a ddysgodd Gymraeg flynyddoedd yn ôl. Mae hi bellach yn diwtor ac yn dysgu Cymraeg i eraill ers 10 mlynedd. 

 

Dysgu Cymraeg 

‘Mae nifer o ddarparwyr gwersi Cymraeg ar gael:

Y Ganolfan Iaith Genedlaethol, sy’n cynnal gwersi Cymraeg i unigolion , grwpiau a theuluoedd yw Nant Gwrtheyrn neu y Nant fel y’i gelwir ar lafar gwlad. Mae’n lle hudolus wedi’i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru. 

Mae cyrsiau gyda sawl arddull dysgu ar gael drwy Dysgu Cymraeg/Learn Welsh: 

Y Gymraeg oedd un o ieithoedd mwyaf poblogaidd ar ap byd-eang Duolingo yn 2021. Beth am ymuno â’r miloedd o bobl sy’n dysgu Cymraeg? 

Mae SaySomethingin-Welsh  hefyd yn ap a chymuned gyda chefnogaeth ar-lein 

baneriaith4

 

iaith@gwynedd.llyw.cymru 

01286 679452