Cystadleuaeth y Pethau Bychain

Cyfle i ennill un o dair gwobr £100!

Yr unig beth sydd eisiau i chi wneud yw tynnu fideo llai na 15 eiliad o hyd ar y testun ‘Y Pethau Bychain’ a’i anfon atom drwy neges breifat ar ein cyfrif Twitter @Prosiect15eg neu Messenger Facebook/prosiect15eg neu Instagram @prosiect15


Rheolau ac Amodau Cystadlu
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bawb, o bob oed ac o bob man. Yr unig reol yw bod eich fideo yn Gymraeg ac yn llai na 15 eiliad o hyd.

Bydd y gystadluaeth yn cau ar 16 Ebrill 2023.


Diogelu data a hawlfraint
Ni fydd unrhyw ddata personol amdanoch yn cael ei rannu gyda thrydydd parti ond ar gyfer deunydd mewnol yn unig sy’n berthnasol i’r prosiect.

Ni fydd Cyngor Gwynedd sy’n gweinyddu Prosiect15 a’r gystadleuaeth hon yn anfon unrhyw ddeunydd marchnata atoch yn dilyn y gystadleuaeth.

Pe baech yn ennill y gystadleuaeth bydd gan Prosiect 15 yr hawl i gyhoeddi eich enw a’ch ardal wrth hysbysu’r byd o’r enillwyr.

Chi fydd piau’r hawlfraint ar y fideo ond drwy gystadlu rydych yn cytuno i Brosiect 15 gael yr hawl i ddefnyddio eich fideo ar gyfer hyrwyddo’r prosiect yn ystod y gystadleuaeth ac i’r dyfodol.

Pob hwyl ar y cystadlu!