Mae’r Cyngor yn falch iawn o’r holl staff sy’n gweithio yn y maes gofal i oedolion, ac yn gwerthfawrogi eu hymroddiad, e’u brwdfrydedd a’u caredigrwydd.
Mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Ngwynedd pob dydd. Dyma sydd gan rai ohonynt i’w ddweud:
Wyddoch chi fod Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn weithiwr cefnogol?
Fel y cogydd lliwgar mae Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn cael ei adnabod fel arfer, ond mae o hefyd wedi bod weithiwr cefnogol yng ngwasanaeth Tai a Chefnogaeth Anabledd Dysgu, Gyngor Gwynedd ers ers 14 mlynedd.
“Dwi’n lyfio’r gwaith. Mae o’n cael positif impact ar fywyd rhywun.”