320px-prentis-profiad-gwaith

Mae profiad gwaith yn cynnig y cyfle i chi gael blasu y byd gwaith a chael cyfle i weld beth i ddisgwyl wrth weithio i Cyngor Gwynedd.

Prif bwrpas profiad gwaith ydi:

  • I godi ymwybyddiaeth o’r Cyngor fel cyflogwr teg ac yn lle da i weithio
  • I sicrhau bod unigolion yn cael blas “go iawn” o weithio i’r Cyngor
  • I gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau byd gwaith
  • I gyfathrebu llwybrau gyrfa glir   

Mae croeso i chi wneud cais ar unrhyw adeg drwy lenwi'r  ffurflen yma: 

GWNEUD CAIS

 

Nid yw llenwi a chyflwyno’r ffurflen gais hon yn sicrhau y cewch chi leoliad profiad gwaith efo Cyngor Gwynedd. Oherwydd gwahanol resymau, mae cyfleoedd yn brin ar hyn o bryd.

Croeso i chi cysylltu gydag unrhyw gwestiynau ar unrhyw adeg drwy e-bostio profiadgwaith@gwynedd.llyw.cymru.

 Ydych chi yn chwilio am brofiad gwaith yn y maes Gofal Cymdeithasol? Gweld manylion profiad gwaith maes gofal.