
Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i chi?
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd.
Mae prentisiaeth yn gyfle i chi ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!
Prosbectws 2026
Canllawiau gwneud cais
Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth os ydynt yn ateb y gofynion isod:
Mae’r lefel prentisiaeth byddwch yn ei ddewis yn ddibynnol ar eich sgiliau a chymwysterau presennol. Cymerwch olwg ar y tabl isod i weld pa lefelau sydd ar gael!
Manylion Prentisiaeth
| Teitl | Lefel | Yn gyfwerth â |
| Prentisiaeth Sylfaen |
Lefel 2 |
TGAU A* i C / 9-4*, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2, NVQ Lefel 2 |
| Prentisiaeth |
Lefel 3 |
2 Lefel A, Diploma Lefel 3, NVQ Lefel 3 |
| Prentisiaeth Uwch |
Lefel 4 |
Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE), HNC, NVQ Lefel 4
|
| Prentisiaeth Uwch |
Lefel 5 |
Diploma Addysg Uwch (DipHE), Gradd Sylfaen, HND, NVQ Lefel 5 |
|
Prentisiaeth Gradd
|
Lefel 6
|
Gradd Baglor (BA/BSc Hons), Diploma neu dystysgrif Lefel 6, NVQ Lefel 6
|
Mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth i chi ddilyn llwybr prentisiaeth:
-
Ennill cyflog wrth ddysgu
-
Derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol
-
Cwblhau cymwysterau o werth
-
Datblygu llwybrau gyrfa clir
Yn ogystal â hyn mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth weithio i Gyngor Gwynedd:
-
Gweithio mewn awyrgylch Gymreig.
-
Bydd cyfle i chi fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
-
Bydd gennych chi 24.5 diwrnod o wyliau, yn ogystal â 8 diwrnod o wyliau banc / gwyliau cyhoeddus.
-
Byddwch chi’n rhan o'n Cynllun Oriau Ystwyth.
-
Byddwch chi’n elwa o ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol.
Bydd y prentis yn derbyn cyflog sy’n unol â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Cyflog prentis
| Prentis (oed) | Cyflog y flwyddyn | Cyflog Net/Mis |
| O dan 18 |
£15,434.24
|
£1,286.19
|
| 18 - 20 |
£20,932.69
|
£1,744.39
|
| 21+ |
£24,521.15
|
£2,043.43 |
Beth ydi’r gofynion sylfaenol?
Oes yna gyfyngiad o ran oedran?
Beth fydd hyd y brentisiaeth?
Ble fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal?
Fel prentis, pa gymhwyster fydda i yn ei ddilyn?
Cofrestrwch eich diddordeb
Beth bynnag yw eich maes diddordeb, cofrestrwch efo ni i fod ar ein rhestr e-bost i dderbyn mwy o wybodaeth am ddatblygiadau neu gyfleoedd yn y dyfodol.
Cofrestru
Cysylltwch â ni
Os oes gennych ymholiad, e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Neu, am sgwrs anffurfiol, ffoniwch 01286 32094.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol: