Cartref > Y Cyngor > Swyddi a Gyrfaoedd > Penodi Cyfarwyddwr Corfforaethol
1
      

Cyfarwyddwr Corfforaethol  

Cyflog: £97,940 a £108,595

Ydych chi’n arweinydd creadigol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf? Ydych chi’n awchu i fod yn rhan o dîm o swyddogion ac aelodau etholedig sydd yn rhoi o’u gorau i drigolion ein cymunedau?

Rydym yn awyddus i recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol fydd yn chwarae rhan allweddol mewn arwain y ffordd i wireddu’r weledigaeth sydd gan Cyngor Gwynedd ar gyfer y dyfodol.


Gweld Pecyn Recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol

Mae Cyngor Gwynedd yn sefydliad arbennig ac unigryw, sydd â gweithlu ac Aelodau Etholedig sydd yn frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau’r gorau i bobl y Sir, ac yn cael ei ystyried fel un o’r awdurdodau lleol sydd yn perfformio orau yng Nghymru. Un o’r heriau ar gyfer y dyfodol fydd parhau i arloesi a darparu gwasanaethau o safon i drigolion Gwynedd.

Rydym am benodi unigolyn fydd yn gallu cydweithio’n agos â’r Prif Weithredwr, ein arweinwyr gwleidyddol a phartneriaid allanol er mwyn trosi eu dyheadau ar gyfer pobl Gwynedd yn weithredu cadarn. Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i arwain a siapio diwylliant sy’n seiliedig ar barch, ymddiriedaeth, atebolrwydd, grymuso ac arfogi eraill.

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol ac arloesol, sydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, gyda’r gallu i arwain staff Cyngor Gwynedd i droi’r weledigaeth yn realiti. Mae’r her yn fawr ond yn un gyffrous, ac rydym am glywed gan unigolion talentog sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl y Sir.

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Os ydych yn barod am yr her yma ac yn awyddus i weithio ag arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd i arloesi a gwneud gwahaniaeth o fewn corff cyhoeddus mawr, yna byddwn yn croesawu’ch cais. 

 

 

Dyddiad Cau: 10am, 30 Mehefin 2025

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr ar 01286 679002.  

 

Sut i ymgeisio  

I gofrestru eich diddordeb yn y swydd allweddol yma ac i dderbyn gwybodaeth ar sut i fynd ati i gyflwyno’ch cais, gallwch yrru e-bost at ein Gwasanaeth Adnoddau Dynol ar penodicyfarwyddwrcorfforaethol@gwynedd.llyw.cymru yn y lle cyntaf.

Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais, a hefyd yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau os ydych wedi eich rhoi ar y rhestr fer ai peidio. 


Dogfennau defnyddiol

 

Gweler hefyd