Rheoli Ansawdd Aer - Asesiad Diweddaru a Sgrinio

Rheoli Ansawdd Aer Lleol (RAALl) ydi'r broses lle mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol adolygu ansawdd yr aer.

Prif bwrpas y broses ydi canfod yw amcanion Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygiad) (Cymru) 2002 yn cael eu bodloni.

Gweld Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2021

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu RAALl drwy rwydwaith o safleoedd ochr y ffordd sy'n monitro nitrogen deuocsid drwy ddefnyddio tiwbiau samplo, a safleoedd monitro am sylffwr deuocsid mewn ardaloedd sensitif. Mae monitor llwch (PM10) hefyd wedi ei leoli mewn gwahanol ardaloedd ble mae pryder am lwch - er enghraifft, ger chwareli.

Mae’r data a dehongliadau’r dogfennau hyn yn cael eu hystyried wrth benderfynu os oes angen gwneud ‘Asesiad Manwl’ ar gyfer llygrydd penodol mewn lleoliad penodol, neu beidio.  Mae canlyniad yr 'Asesiad Manwl' yn pennu os oes angen creu ‘Safle Rheoli Ansawdd Aer’.

Hyd at hyn, nid yw wedi bod yn angenrheidiol i Gyngor Gwynedd symud ymlaen i wneud ‘Asesiad Manwl’ mewn unrhyw leoliad. 

Mae’r data misol y rhwydwaith tiwbiau samplo i'w cael ar wefan Fforwm Ansawdd Aer Cymru.