Trawsgrifiad fideo Cynllun y Cyngor

Trawsgrifiad fideo Cynllun y Cyngor

 Llais (audio)                                     Gweladwy (visual)

 Dim

 Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28

 Yma yn Nghyngor Gwynedd rydym wedi gosod ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf gyda Chynllun Cyngor Gwynedd 2023 i 2028

 Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn eistedd y tu ôl i ddesg.

Rhwng cloriau'r ddogfen yma rydym yn nodi 7 maes blaenoriaeth ac o fewn y rheiny mae prosiectau sydd yn gwella a datblygu gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar gyfer ein pobl ni.

 Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn dangos copi papur o’r Cynllun.

Efallai i chi feddwl sut i ni benderfynu ac ymrwymo i'r meysydd a'r prosiectau yma?
Wel mi ddyweda' i wrthych chi mai adborth a blaenoriaethau pobl Gwynedd ydi sail y gwaith . Ryda ni wedi gwrando ar leisiau pobl leol drwy ymarferiad ymgysylltu Ardal Ni a dyma sydd wrth galon popeth sydd o fewn y cynllun.

 Golygfeydd o Wynedd

 Dim 

Sleid: Y saith maes blaenoriaeth a fydd yn gyrru prosiectau 2023-28 yw..

 Gwynedd Yfory. Rhoi'r cychwyn gorau bosib mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc.

 Llun o ystafell ddosbarth mewn ysgol.

Gwynedd Lewyrchus Cryfhau'r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng.

 Llun o beiriant mewn ffatri

Gwynedd Glyd Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau.

 Llun ystâd o dai

 Gwynedd Ofalgar. Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau.

Llun o ofalwraig wrth ei gwaith yn cefnogi person.

 Gwynedd Gymraeg. Sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posib i'n trigolion ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned

Llun arwydd ‘siarad Cymraeg’

Gwynedd Werdd. Gwarchod harddwch naturiol y Sir ac ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng newid hinsawdd.

Llun o Wynedd wledig, a llun o’r criw tacluso wrth eu gwaith

Gwynedd Effeithlon. Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fid y Cyngor yn perfformio yn effeithiol ac effeithlon

Llun o berson ar ffôn symudol

Cadwch olwg am fwy o wybodaeth a fideos am y meysydd gwaith ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

 Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn eistedd y tu ôl i ddesg.

Dim

Sleid: I ddarllen Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 ewch i'n gwefan www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunyCyngor Mae copiau papur hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol.

 

Yn ôl i brif dudalen Cynllun y Cyngor 2023-28


Os ydych chi angen unrhyw un o'r dogfennau uchod mewn fformat neu iaith arall cysylltwch â ni: cynlluncyngor@gwynedd.llyw.cymru