Gwynedd lewyrchus

Sylfaen caniatáu i bobl Gwynedd ffynnu yw sicrhau fod swyddi addas ar gael yn y sir sy’n talu cyflogau sy’n eu galluogi i gynnal eu hunain a’u teuluoedd. Ein huchelgais yw i sicrhau: 

  • Swyddi o safon.
  • Cefnogaeth i fusnesau ffynnu.
  • Twristiaeth gynaliadwy er budd cymunedau.
  • Cymunedau cryf a gwydn.
  • Canol trefi llewyrchus a llawn bwrlwm. 

Prosiectau Gwynedd Lewyrchus

Byddwn yn cymryd cyfres o gamau er mwyn hyrwyddo ein diwylliant a chreu economi ymweld cynaliadwy:  

  • Bydd Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri, a luniwyd ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2023. Bydd prif bartneriaid a rhanddeiliaid yn cydweithio i gyflawni’r hyn fydd yn y Cynllun gan sefydlu Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri.   

  • Byddwn yn sicrhau llewyrch o’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a sicrhau adnoddau i gyflawni Cynllun Gweithredu Safle Treftadaeth y Byd.   

  • Byddwn yn Rheoli Cartrefi Modur sy’n ymweld â Gwynedd drwy beilota datblygu hyd at 6 safle pwrpasol i gartrefi modur aros dros nos.   

  • Bydd cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2023 yng Ngwynedd yn llwyfan i ddathlu ein diwylliant a’n hiaith, y celfyddydau a chwaraeon a sicrhau bod yr Eisteddfod yn gadael gwaddol gadarnhaol yng nghymunedau Gwynedd.

Byddwn yn sefydlu Fframwaith Adfywio drwy ddatblygu Cynlluniau Adfywio Lleol ar gyfer 13 dalgylch ar draws y sir ac yn sicrhau trefniadau traws-adrannol o fewn y Cyngor er mwyn sicrhau fod rhaglenni gwaith yn cydblethu a rhannu gwybodaeth gyda chymunedau drwy barhau gyda’r gwaith ymgysylltu. Bydd cynlluniau gweithredu ar gyfer Canol Tref/ Dinas yn cael eu paratoi ar gyfer trefi unigol.

Byddwn yn cefnogi busnesau a mentrau cymunedol Gwynedd i ffynnu mewn sawl ffordd megis datblygu cynnyrch a chael mynediad i farchnadoedd newydd, helpu mentrau i arbed arian drwy leihau gwastraff a defnyddio technoleg yn well, cefnogi busnesau yng Ngwynedd i fasnachu gyda'i gilydd a blaenoriaethu helpu mentrau sydd yn ymrwymo i dalu ‘cyflog byw gwirioneddol’ i’w gweithwyr. Byddwn yn hybu busnesau i wneud y mwyaf o’r Gymraeg, yn datblygu mwy o unedau busnes i’w gosod ar rent, ac yn ymdrechu i sicrhau fod pobl Gwynedd yn elwa o brosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru. Byddwn hefyd yn helpu pobl Gwynedd i gyflawni eu potensial a chefnogi’r rhai sydd wedi eu heithrio o’r farchnad lafur i ddychwelyd i waith a gweithio gyda chyflogwyr i’w helpu i sicrhau gweithwyr digonol.

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am brynu nwyddau a gwasanaethau sylweddol gan gwmnïau allanol ac rydym yn awyddus i weld busnesau lleol yn cystadlu ac ennill y cytundebau hyn er mwyn sicrhau fod cymaint o wariant y Cyngor ag sy’n bosibl yn aros yn lleol.     

Bydd y prosiect yma yn sicrhau ein bod yn gwneud pob ymdrech i gefnogi busnesau lleol i ymgeisio am gyfleon, o fewn y rheolau perthnasol, ac ar yr un pryd yn sicrhau fod y Cyngor yn cael y gwerth gorau am yr arian sy’n cael ei wario.