Gwynedd Ofalgar

Mae gofalu am unigolion bregus yn un o’n prif gyfrifoldebau a’n huchelgais yw cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau drwy: 

  • Ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus neu sy’n agored i niwed.
  • Cefnogi trigolion i gymryd rhan ac ymgysylltu gyda'u cymunedau, ac i leihau tlodi a’i effeithiau.
  • Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn byw bywydau hapus ac yn cyrraedd eu potensial o ran eu haddysg, eu hiechyd a’u lles.
  • Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i drigolion Gwynedd i'w cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol.
  • Galluogi trigolion Gwynedd i fyw’n annibynnol mewn llety addas a chydag urddas gyhyd ag y bo modd yn eu cymuned.
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl.
  • Darparu gofal a chefnogaeth o safon uchel yn y lle iawn ar yr amser iawn.
  • Cefnogi ein cymunedau i sicrhau hygyrchedd ac i ddatblygu'n Wynedd Oed Gyfeillgar.

 

Proseictau Gwynedd Ofalgar

Byddwn yn gweithio’n ataliol i gefnogi a diogelu unigolion yn lleol drwy hybu eu llesiant a’u hannog i gyfrannu o fewn eu cymunedau. Ymysg ein cynlluniau mae: 

  • Cyfrannu at ddatblygiadau iechyd a gofal ym Mangor a Phenygroes.
  • Ehangu ein rhwydwaith o hybiau cymunedol ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, gan ganolbwyntio i ddechrau ar Ganolfan Dolfeurig, Dolgellau.
  • Cyhoeddi rhaglen o weithgareddau a chyfleon i unigolion a gofalwyr ar draws y sir.
  • Sicrhau fod Gwynedd yn sir oed gyfeillgar a bod trigolion o bob oed yn medru cael bywyd da yn eu cymuned leol.
  • Rhannu gwybodaeth gyda’n cymunedau’n fwy effeithiol a gwella ein dulliau o ymgysylltu wrth ddatblygu’n gwasanaethau.

Mae anghenion gofal unigolion y sir yn newid ac mae unigolion yn byw’n hirach. Mae angen i ni felly addasu ein gwasanaethau i alluogi i bobl fyw’n annibynnol o fewn eu cymunedau.  Ymysg ein cynlluniau mae:  

  • Ehangu ein darpariaeth gofal dydd ac ysbaid a darparu rhagor o opsiynau llety addas ar gyfer unigolion ag ystod eang o anghenion, megis Tai Gofal Ychwanegol.
  • Cydweithio ar draws sectorau i sicrhau bod ein gwasanaethau gofal cartref wedi’u teilwra ac ar gael yn brydlon pan fo’u hangen.
  • Arwain ar Gynllun Gofalwyr ar draws y maes gofal Oedolion a Phlant i gefnogi gwaith amhrisiadwy gofalwyr di-dâl ar draws y sir.
  • Sicrhau ein bod yn defnyddio teleofal a thechnoleg i’w lawn botensial i hybu annibyniaeth unigolion.
  • Hwyluso’r broses o dderbyn a darparu gofal drwy daliadau uniongyrchol drwy ystyried dulliau megis Waled Rhithiol. 

Byddwn yn sicrhau bod gofal priodol ac arbenigol ar gael yn amserol; a hynny ar draws ein holl ddarpariaethau gofal.  Ymysg ein cynlluniau mae: 

  • Sicrhau darpariaeth nyrsio a dementia ddigonol ar draws y sir gan gynnwys datblygu gwlâu nyrsio ar safle Penrhos, Pwllheli. 
  • Sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd i’n galluogi i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i oedolion Gwynedd. 
  • Datblygu ein gwasanaethau iechyd meddwl i sicrhau pwyslais digonol ar lesiant unigolion. 
  • Cryfhau ein gallu i gefnogi darparwyr gofal i gynnal gwasanaeth o safon i drigolion Gwynedd. 
  • Cyfrannu at brosiect Cynllunio’r Gweithlu i sicrhau sylw priodol i heriau a chyfleon penodol y maes gofal. 
  • Rhoi trefniadau newydd Diogelu rhag Amddifadu o Ryddid ar waith i warchod hawliau pobl sy’n derbyn gofal yn y sir.

Mae rhai trigolion yn ei chael hi’n anodd i ymdopi gyda heriau bywyd ac mae sefyllfa nifer o drigolion wedi gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae’r trigolion hyn angen cefnogaeth i ymdopi, i ffynnu, i fod yn ddiogel, ac i gadw’n iach.      

Mae gennym rwydwaith eang drwy ein cymunedau sy’n helpu ac yn cefnogi trigolion i ymdopi ac yn ymateb i’w hanghenion amrywiol. Mae’r rhwydwaith honno angen cefnogaeth i gynnal yr ymdrech gwirfoddol hwnnw, a byddwn yn gweithio i gryfhau’r gwaith hanfodol yma dros y blynyddoedd nesaf.

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig yn ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt.  Byddwn felly yn gwella’n darpariaeth a’i gwneud hi’n haws i unigolion a’u teuluoedd i drosglwyddo rhwng gwahanol wasanaethau. 

Rydym am wella profiadau’r plant sydd yn ngofal y Cyngor gydag anghenion dwys a chymhleth, sydd ar hyn o bryd yn gorfod gadael y sir neu Gymru er mwyn cael darpariaeth addas. Byddwn yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau.