Strategaeth Economi Gwynedd

 

 

Economi Sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035

Mae Gwynedd yn sir unigryw. Yn ei chymunedau clos, ei harddwch naturiol ac ym mywiogrwydd y Gymraeg yn y sir, mae ganddi hunaniaeth ac apêl unigryw sy’n rhoi iddi ei lle ymhlith y lleoedd gorau i fyw a gweithio yng Nghymru a thu hwnt.

Mae yma hefyd economi fodern ac arloesol gyda photensial sylweddol yn y mentrau sydd yma eisoes a chyfleoedd mewn diwydiannau a gweithgaredd newydd am ddyfodol llewyrchus i bobl Gwynedd.

Ond mae llawer o’r potensial hwn eto i’w wireddu. Yn ôl sawl dangosydd, mae bwlch sylweddol rhwng economi Gwynedd a gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig. Yn rhannol o’r herwydd, y teimlad yn aml yw nad oes yma y cyfleoedd, y math o waith priodol, na’r cyflogau sydd eu hangen ar gyfer byw bywydau cyflawn.

Mae’r Strategaeth hon yn ymateb i’r bwlch hwn a bydd yn siapio ein gwaith hyd at 2035. Mae’n asesiad gonest o’r economi heddiw ond yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Trwy adnabod ein cryfderau a’n gwendidau, y cyfleoedd sydd yma yn y sir, a’r meysydd hynny sydd angen eu gwella, pwrpas y Strategaeth yw gwireddu potensial ein pobl a’n mentrau, a chreu buddion a chyfleoedd newydd. Ein gweledigaeth yw creu

“Economi arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cryfhau’r Gymraeg, yn creu cyfleoedd newydd ac yn cyfrannu at lesiant pawb.”

 

Themâu a Blaenoriaethau

Themâu a blaenoriaethau arfaethedig y strategaeth yw:

Mentergarwch - mentrau lleol llewyrchus sy’n rhagori

1. Uchafu gwerth ein heconomi bresennol

2. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd newydd

Pobl - gweithlu medrus a chynhwyso

3. Sicrhau gweithlu medrus

4. Cefnogi ein pobl

Lle - yr amodau gorau i ffynnu

5. Y cysylltedd a’r isadeiledd gorau posibl

6. Lle gwych i fyw, gweithio a mentro

I gyd-fynd â’r strategaeth bydd cynllun cyflawni yn cael ei lunio i gydlynu’r gwaith yn y maes ac i adnabod pa brosiectau ddylai gael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllid newydd.

Darllen Strategaeth Economi Gwynedd