Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru a Deddf Tai 2004 mae’n rhaid i’r Cynghorau gwrdd â’r angen am lety i boblogaeth yn ei ardal. Mae hyn yn cynnwys anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.


Faint o leiniau sydd ei angen?

Dangosodd astudiaeth i adnabod yr angen am leiniau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr angen am leiniau parhaol, (h.y. lleiniau lle gall Sipsiwn a Theithwyr aros rhan fwyaf o’r flwyddyn), a’r angen am lleiniau teithiol/ lleiniau aros cydnabyddedig, h.y. rhai ar gyfer gwahanol grwpiau o Sipsiwn a Theithwyr (sydd yn teithio trwy’r ardal  neu sy’n dewis ymweld ac aros yn yr ardal am gyfnodau byr).

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
SirLleiniau Parhaol Lleiniau Teithiol 
Gwynedd  10  
Môn  11  
Conwy  3 28*
Dinbych  2  
Fflint  36  

 *  Rhyw bedwar safle ar wahân o 7 o leiniau ar draws Gogledd Cymru.


Yn lle fydd angen y lleiniau?

Hoffai’r Cynghorau gael gwybodaeth am safleoedd posib sydd yn agos at lwybrau teithio arferol Sipsiwn a Theithwyr.


Galw am safleoedd

Er mwyn adnabod safleoedd penodol i fynd i mewn i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac i oleuo adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Eryri, mae’r Cynghorau’n cynnal cyfnod “Galw am Safleoedd”.  Dyma pryd gall y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, tirfeddianwyr, mudiadau neu unrhyw un arall gyflwyno gwybodaeth am safleoedd i’r Cynghorau i’w cael eu hasesu a darganfod pa mor addas ydynt i’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

Bydd y cyfnod Galw am Safleoedd yn parhau am 6 wythnos, rhwng 4 Rhagfyr 2013 a 17 Ionawr 2014.

I gyflwyno safle er ystyriaeth, yng Ngwynedd neu Ynys Môn, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen. Gallwch lenwi’r ffurflen neu gael copi ohoni wrth glicio ar y linc isod. Bydd rhaid i chi ddangos ffiniau’r safle posib ar fap a’i gyflwyno gyda’r ffurflen. Bydd rhaid postio’r ffurflen a’r map i: Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, Neuadd y Dref, Bangor, Gwynedd LL57 1DT neu gyrru’r ffurflen a’r map i polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru

Nid oes unrhyw ymrwymiad i adnabod unrhyw safle gaiff ei gyflwyno yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd nag yn adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Eryri na roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad ar y safleoedd yn y cyfamser.

Caiff pob safle a gyflwynwyd er ystyriaeth ei asesu i ganfod: os ydy o’n cydymffurfio â pholisi cynllunio; y gallu i ddatblygu’r safle; cyfyngiadau ffisegol ac amgylcheddol; anghenion o ran isadeiledd i gefnogi'r datblygiad; a hygyrchedd y safle.


FE FYDD Y GOFRESTR O SAFLEOEDD POSIB AR GAEL I’W H’ARCHWILIO YN Y MANNAU CYHOEDDUS CANLYNOL: 

  • Neuadd y Dref
  • Siop Gwynedd Pwllheli
  • Swyddfeydd Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth
  • Derbynfa Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (Rovacabin) Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
  • Gwefan Ynys Môn


Rhagor o wybodaeth

Gellir cael mwy o wybodaeth trwy gysylltu gyda: Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679890


Atodiadau