Gwynedd Ofalgar

Mae gofalu am unigolion bregus yn un o’n prif gyfrifoldebau a’n huchelgais yw cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau drwy: 

  • Ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus neu sy’n agored i niwed.
  • Cefnogi trigolion i gymryd rhan ac ymgysylltu gyda'u cymunedau, ac i leihau tlodi a’i effeithiau.
  • Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn byw bywydau hapus ac yn cyrraedd eu potensial o ran eu haddysg, eu hiechyd a’u lles.
  • Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i drigolion Gwynedd i'w cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol.
  • Galluogi trigolion Gwynedd i fyw’n annibynnol mewn llety addas a chydag urddas gyhyd ag y bo modd yn eu cymuned.
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl.
  • Darparu gofal a chefnogaeth o safon uchel yn y lle iawn ar yr amser iawn.
  • Cefnogi ein cymunedau i sicrhau hygyrchedd ac i ddatblygu'n Wynedd Oed Gyfeillgar.

 

Proseictau Gwynedd Ofalgar

Byddwn yn moderneiddio ein cartrefi gofal, yn diweddaru ein hadnoddau cymunedol ac yn ehangu’r opsiynau llety sydd ar gael i drigolion Gwynedd.Ymysg ein cynlluniau mae:

  • Tai Gofal Ychwanegol - Datblygu dros 100 o unedau newydd ym Mhenyberth, Frondeg (Pwllheli), Canolfan Lleu (Penygroes) a Dolgellau.
  • Cartrefi Preswyl:
    • Ailddatblygu Plas Gwilym, Penygroes.
    • Uwchraddio Hafod Mawddach a Cefn Rodyn.
    • Agor Uned Dementia yng Nghartrefi Bryn Blodau a Plas Hedd.
    • Cynllunio datblygiadau dementia yn Plas PengwaithAgor cartref nyrsio a dementia newydd yn Penyberth
  • Tai â Chefnogaeth yn y Gymuned – isafswm o 6 tŷ wedi eu lleoli ar hyd a lled y sir er mwyn cynnig cartrefi gofal addas a diogel.
  • Gwaith comisiynu ar y cyd gyda’r Adran Tai i ddeall y galw am lety gofal yn y dyfodol

Byddwn yn galluogi pobl Gwynedd i fyw eu bywyd gorau cyn hired a phosib o fewn eu cymunedau’n lleol. I gyflawni hyn, mae angen iddynt fod â’r wybodaeth sydd ei angen i allu manteisio ar gyfleon cymunedol fyddai’n hyrwyddo eu llesiant, yn ogystal â dulliau hyblyg o drefnu’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.Ymysg ein cynlluniau mae:

  • Mabwysiadu a hyrwyddo system gwybodaeth gymunedol, Dewis
  • Integreiddio system therapi galwedigaethol rithiol, AskSarah, i'n gwefan
  • Datblygu ein defnydd o Ofal Alluogwyd drwy Dechnoleg (TEC)
  • Hyrwyddo defnydd o’r gwasanaeth Teleofal
  • Gwneud defnydd o roboteg i alluogi byw’n annibynnol
  • Datblygu ein system Taliadau Uniongyrchol drwy ddefnyddio waled rithiol.

I sicrhau ein bod yn hyrwyddo llesiant unigolion yn llawn, mae’n hollbwysig ein bod yn medru newid ein diwylliant a sicrhau ein bod yn cydweithio’n effeithiol gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau gofal ac iechyd cynhwysfawr i’r dyfodol.

Ymysg ein cynlluniau mae:

  • Cydleoli timau oedolion gyda nyrsys cymuned a therapyddion iechyd
  • Datblygu systemau cydweithio fel un tîm o amgylch yr unigolyn drwy system Tîm Adnoddau Cymunedol
  • Cydweithio i alinio’r Timau Adnoddau Cymunedol i'r Clystyrau Iechyd Cynradd
  • Datblygu trefniadau cydweithio newydd i'r timau iechyd meddwl cymunedol

Byddwn yn hyrwyddo cyfleon hyfforddi a gwaith ar gyfer unigolion sydd angen cefnogaeth. Ymysg cynlluniau eraill, byddwn yn gwella’r ddarpariaeth yn ein Canolfannau Dydd Anableddau Dysgu yn Dolfeurig yn Nolgellau a Frondeg, Caernarfon.

Byddwn yn paratoi dadansoddiad o ddemograffeg Gwynedd; y galw am wasanaeth; ac arferion gorau gwasanaethau cymdeithasol oedolion er mwyn deall ac amlygu y galw am wasanaeth a’r adnoddau cysylltiedig a fydd eu hangen ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf.

Mae rhai trigolion yn ei chael hi’n anodd i ymdopi gyda heriau bywyd ac mae sefyllfa nifer o drigolion wedi gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae’r trigolion hyn angen cefnogaeth i ymdopi, i ffynnu, i fod yn ddiogel, ac i gadw’n iach.      

Mae gennym rwydwaith eang drwy ein cymunedau sy’n helpu ac yn cefnogi trigolion i ymdopi ac yn ymateb i’w hanghenion amrywiol. Mae’r rhwydwaith honno angen cefnogaeth i gynnal yr ymdrech gwirfoddol hwnnw, a byddwn yn gweithio i gryfhau’r gwaith hanfodol yma dros y blynyddoedd nesaf.

Mae plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig yn ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt.  Byddwn felly yn gwella’n darpariaeth a’i gwneud hi’n haws i unigolion a’u teuluoedd i drosglwyddo rhwng gwahanol wasanaethau. 

Rydym am wella profiadau’r plant sydd yn ngofal y Cyngor gydag anghenion dwys a chymhleth, sydd ar hyn o bryd yn gorfod gadael y sir neu Gymru er mwyn cael darpariaeth addas. Byddwn yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau.