Gwynedd Glyd

Ein huchelgais yw i sicrhau bod gan pob person yng Ngwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella ansawdd eu bywydau. Byddwn yn ceisio cyflawni hyn drwy osod uchelgais i: 

  • Sicrhau fod neb yn ddigartref yng Ngwynedd.
  • Helpu trigolion Gwynedd i fod yn berchen ar gartref fforddiadwy yn eu cymuned.
  • Sicrhau fod tai newydd yng Ngwynedd yn amgylcheddol gyfeillgar.
  • Sicrhau fod tai Gwynedd yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a llesiant trigolion y sir. 

Proseictau Gwynedd Glyd 

Byddwn yn cyflawni’r prosiectau sydd yn rhan o’n Cynllun Gweithredu Tai i gynyddu’r cyfleoedd i drigolion Gwynedd allu sicrhau cartref addas. Ymysg y 33 prosiect unigol sy’n rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai, byddwn yn:  

  • Cydweithio gyda’r cymdeithasau tai lleol i adeiladu mwy o dai cymdeithasol trwy gyflymu’r rhaglen adeiladu gan anelu i godi 500 o dai newydd. 
  • Adeiladu ein tai ein hunain mewn safleoedd ar draws y sir. Byddant ar gael i drigolion lleol ar rent canolraddol neu i’w prynu trwy gynlluniau rhannu ecwiti. Anelir i godi 100 o dai o’r math yma.
  • Prynu tai preifat er mwyn eu gosod ar rent fforddiadwy i bobl leol. Byddwn yn targedu tai gwag yn y lle cyntaf ond byddwn hefyd yn edrych ar dai sydd ar y farchnad agored. Anelir i brynu 100 o dai fforddiadwy dros oes y Cynllun. 
  • Darparu cymorth ar ffurf cynllun rhannu ecwiti  fel y gall prynwyr tro cyntaf lleol gystadlu yn y farchnad dai. 
  • Darparu grantiau er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gweigion i safon byw derbyniol. Bydd hyn yn dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ac yn helpu pobl ifanc a phrynwyr tro cyntaf i fyw mewn tŷ. Anelir i ddod â 250 o dai gwag yn ôl i ddefnydd.  
  • Byddwn yn prynu tir adeiladu ar gyfer y dyfodol. 

Mae costau ynni cynyddol yn golygu fod nifer o bobl y sir yn methu fforddio cadw eu tai yn gynnes, ac o ganlyniad mae perygl gwirioneddol i iechyd rhai o’n trigolion.  

Byddwn yn cydweithio gyda’n partneriaid i hyrwyddo a hwyluso cynlluniau arbed ynni, grantiau, a budd-daliadau er mwyn sicrhau fod cymaint o bobl â phosib yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael ar adeg heriol iawn.

Er mwyn sicrhau nad ydi pobl ddigartref yn gorfod treulio amser maith mewn llety dros dro, byddwn yn: 

  • Datblygu ein huned ‘tai â chefnogaeth’ ein hunain, sef llety lle darperir cefnogaeth i unigolion digartref gan staff arbenigol er mwyn caniatáu iddynt ddysgu a datblygu sgiliau bywyd er mwyn gwella eu gallu i gynnal tenantiaeth yn y dyfodol.  
  • Adnewyddu ac uwchraddio hen adeilad NatWest a GISDA yng Nghaernarfon i ddarparu pump fflat i ieuenctid digartref, ac ymestyn y caffi presennol i greu cyflogaeth i’r digartref, ynghyd â chreu cartref parhaol i GISDA a chreu gofod aml-asiantaethol i gefnogi ieuenctid digartref.  
  • Llunio pecyn cefnogaeth i annog landlordiaid preifat i gynnig llety parhaol i’r digartref, yn hytrach na’u gosod am gyfnodau tymor byr neu fel llety gwyliau. Anelir i gael 100 o unedau llety parhaol dros oes y Cynllun. 
  • Gweithio i atal digartrefedd trwy gynyddu ein capasiti i gynorthwyo a chefnogi unigolion bregus i barhau yn eu cartref.  
  • Ceisio symud pobl digartref i lety sefydlog cyn gynted â phosibl, yn hytrach na’u bod yn aros mewn llety dros dro am gyfnodau hir. 

Mae’r nifer sylweddol o dai yng Ngwynedd sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn cael effaith andwyol ar allu pobl y sir i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.  

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno ymchwil manwl i’r Llywodraeth yn amlygu’r angen am weithredu ym meysydd cynllunio, trethiant a thrwyddedu er mwyn cael gwell rheolaeth o’r sefyllfa. Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan y Llywodraeth, gan gynnwys sefydlu Peilot Dwyfor sy’n ymrwymo i gyflwyno camau i daclo problemau yn y maes, mae’r Cyngor yn paratoi i weithredu’r newidiadau deddfwriaethol mor fuan â phosib.  Byddwn hefyd yn gosod premiwm treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag bob blwyddyn ar gyfradd briodol i ymateb i’r sefyllfa ar y pryd.