Beth ydym yn ei wneud?

Yr Uned Polisi Cynllunio ar y cyd Gwynedd a Môn

Yn 2010 gwnaed y penderfyniad i uno Uned Polisi Cynllunio Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Sefydlwyd yr Uned ym mis Mai 2011.

Dylai pob ymholiad polisi cynllunio mewn perthynas ag ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd neu Ynys Môn cael ei gyfeirio tuag at yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Mae’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn gyfrifol am gynhyrchu polisïau cynllunio ac arweiniad defnydd tir a ddefnyddir er mwyn gwneud penderfyniad ar geisiadau cynllunio ac felly tywys datblygiadau'r dyfodol yn yr ardal. Mae’r polisïau ac arweiniad yn cynnwys: 

Y Cynllun Datblygu mabwysiedig presennol ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ydi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a gafodd ei fabwysiadu ar 31 Gorffennaf 2017. Mae'n disodli'r Cynllun Datblygu Unedol (CDU).


Cysylltu â ni

  • Ffon: (01766) 771000
  • E-bost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad: Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (Gwynedd a Môn), Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 1DT.