| Llais (audio) | Gweladwy (visual) | 
|---|
|  Dim |  Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 | 
|  Yma yn Nghyngor Gwynedd rydym wedi gosod ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf gyda Chynllun Cyngor Gwynedd 2023 i 2028 |  Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn eistedd y tu ôl i ddesg. | 
| Rhwng cloriau'r ddogfen yma rydym yn nodi 7 maes blaenoriaeth ac o fewn y rheiny mae prosiectau sydd yn gwella a datblygu gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar gyfer ein pobl ni. |  Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn dangos copi papur o’r Cynllun. | 
| Efallai i chi feddwl sut i ni benderfynu ac ymrwymo i'r meysydd a'r prosiectau yma?Wel mi ddyweda' i wrthych chi mai adborth a blaenoriaethau pobl Gwynedd ydi sail y gwaith . Ryda ni wedi gwrando ar leisiau pobl leol drwy ymarferiad ymgysylltu Ardal Ni a dyma sydd wrth galon popeth sydd o fewn y cynllun.
 |  Golygfeydd o Wynedd | 
|  Dim  | Sleid: Y saith maes blaenoriaeth a fydd yn gyrru prosiectau 2023-28 yw.. | 
|  Gwynedd Yfory. Rhoi'r cychwyn gorau bosib mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc. |  Llun o ystafell ddosbarth mewn ysgol. | 
| Gwynedd Lewyrchus Cryfhau'r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng. |  Llun o beiriant mewn ffatri | 
| Gwynedd Glyd Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau. |  Llun ystâd o dai | 
|  Gwynedd Ofalgar. Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau. | Llun o ofalwraig wrth ei gwaith yn cefnogi person. | 
|  Gwynedd Gymraeg. Sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posib i'n trigolion ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned | Llun arwydd ‘siarad Cymraeg’ | 
| Gwynedd Werdd. Gwarchod harddwch naturiol y Sir ac ymateb yn gadarnhaol i'r argyfwng newid hinsawdd. | Llun o Wynedd wledig, a llun o’r criw tacluso wrth eu gwaith | 
| Gwynedd Effeithlon. Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fid y Cyngor yn perfformio yn effeithiol ac effeithlon | Llun o berson ar ffôn symudol | 
| Cadwch olwg am fwy o wybodaeth a fideos am y meysydd gwaith ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. |  Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn eistedd y tu ôl i ddesg. | 
| Dim | Sleid: I ddarllen Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 ewch i'n gwefan www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunyCyngor Mae copïau papur hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol. |