Gwynedd Yfory

Ein huchelgais yw sicrhau fod pob disgybl a addysgir yng Ngwynedd yn cael: 

  • Eu trin yn gyfartal, eu hannog i drin eraill yn gyfartal a sicrwydd bod eu llesiant a'u hapusrwydd yn flaenoriaeth gennym.
  • Addysg o’r safon orau gan gynnwys mynediad at ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol er mwyn cyflawni gofynion y ‘Cwricwlwm i Gymru’ newydd.
  • Mynediad at Addysg cyfrwng Cymraeg drwy gydol eu cyfnod mewn addysg.
  • Eu haddysgu mewn adeiladau sydd mewn cyflwr da, yn ddiogel ac yn addas i bwrpas hyd orau ein gallu.
  • Y cyfle i ddatblygu i fod yn bobl gyflawn, hapus a hyderus yn y byd.
  • Cefnogaeth gan wasanaethau proffesiynol wedi eu teilwra i gwrdd ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Y cyfle i gael pryd maethlon yn yr ysgol yn ddi-gost i gymaint o ddisgyblion â phosibl. 
  • Mynediad at gyfarpar a thechnoleg sy’n hybu dysgu cyfoes ac effeithiol.
  • Sicrhad fod caeau chwarae a chyfleusterau addas ar gael i blant a phobl ifanc yn eu hamser hamdden. 


Prosiectau Gwynedd Yfory 

Mae’r blynyddoedd cynnar yn allweddol i ddatblygiad cymdeithasol plant, a gwelwyd pwysigrwydd y cyfnod hwn yn enwedig yn ystod y pandemig. Rydym am drawsnewid y gwasanaeth yma a byddwn yn cydweithio gyda’r gwasanaeth iechyd a’r Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau fod holl blant y sir yn cael y cychwyn gorau posib i’w cyfnod mewn addysg.  

Bydd holl blant ysgolion cynradd y sir yn cael cinio ysgol am ddim, a byddwn yn ystyried os yw’n bosib ymestyn hyn i ddisgyblion uwchradd hefyd.  O ganlyniad, bydd angen i ni uwchraddio ein ceginau a’r mannau bwyta er mwyn ymdopi gyda’r niferoedd uwch fydd yn cael cinio ysgol.

Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol dros y degawd diwethaf, mae nifer o adeiladau ysgolion y sir dal i fod yn hen ac angen eu moderneiddio. Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau i ysgolion ledled y sir ac yn benodol ardal Bangor a Chricieth, a byddwn yn cymryd pob cyfle i ymgeisio am gymorth grant i’n galluogi i foderneiddio adeiladau presennol a datblygu adeiladau newydd. 

Byddwn hefyd yn gorffen ein hadolygiad o drefniadau addysg ôl-16 yn Arfon er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig y trefniant gorau i ddysgwyr yr ardal.

Gyda chostau pethau dyddiol fel gwisg ysgol, bwyd, cludiant, a deunyddiau ysgrifennu ar gynnydd, rydym am ailedrych ar y costau sydd ynghlwm ag anfon plant i’r ysgol gyda’r bwriad o’u lleihau, ond gan warchod yr addysg a’r profiadau gwerthfawr y mae ein plant yn eu cael yn ystod ac ar ôl oriau ysgol.  

Byddwn hefyd yn ymdrin â materion llesiant yn cynnwys heriau emosiynol a seicolegol, ac yn cefnogi materion ehangach sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, er enghraifft magu hyder, cydraddoldeb, iechyd meddwl, problemau cludiant, a sicrhau profiad gwaith a chyfleon am swyddi.  

Mae cyfleon chwarae yn bwysig i ddatblygiad plentyn ac mae darparu meysydd chwarae o safon yn un ffordd y gallwn hybu’r cyfleoedd hyn. Byddwn felly yn ailedrych ar ein holl feysydd chwarae ac yn datblygu cynllun fydd yn ystyried sut y gallwn eu gwella yn ogystal â’u cynnal. 

Byddwn hefyd yn edrych ar sut mae’r ddarpariaeth newydd ar gyfer Ieuenctid yn gweithio ar draws y sir a pha ddeilliannau y mae’n eu cyflawni i bobl ifanc