Safonau'r Gymraeg a Pholisi Iaith
Safonau'r Iaith Gymraeg
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i Safonau’r Iaith Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 4A Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant ar y Cyngor i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.
Mae’r Safonau Iaith wedi eu rhannu yn 5 dosbarth:
- Cyflenwi Gwasanaethau
- Llunio Polisi
- Gweithredu
- Cadw Cofnodion
- Hybu
Rydym yn paratoi a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ein cydymffurfiad efo’r Safonau Iaith, ac yn adrodd ar ddatblygiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn er mwyn cryfhau’r gwasanaethau Cymraeg.
Polisi Iaith
Mae’r Cyngor wedi llunio Polisi Iaith newydd er mwyn sicrhau bod y Cyngor a Staff y Cyngor yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r polisi iaith newydd yn amlinellu sut y bwriedir cydymffurfio â’r Safonau a sut bydd y Cyngor yn mynd ati i fanteisio ar bob cyfle posib i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau Cymraeg ymysg trigolion Gwynedd.
Cwynion Iaith
Bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn delio gydag unrhyw gwynion sydd yn ymwneud efo cydymffurfiaeth efo’r Safonau neu’r Polisi Iaith, neu am fethiant ar ran y Cyngor i gynnig gwasanaethau Cymraeg, a byddant yn gwneud hynny drwy ddilyn yr un gofynion a’r weithdrefn gwynion gorfforaethol.
Mae’r drefn ar gyfer delio gyda chwynion iaith yn cael ei hesbonio yn fanylach yma:
Gweithdrefn cwynion iaith
Gallwch gysylltu yn uniongyrchol gyda’r uned ar iaith@gwynedd.llyw.cymru
Mae gennych hefyd yr hawl i gyfeirio cwynion sydd yn ymwneud efo’r Safonau yn syth at Gomisiynydd y Gymraeg. Gwefan y Comisiynydd - Gwneud cwyn
Pwyllgor Iaith
Mae’r pwyllgor,sy’n cynnwys 15 aelod etholedig, yn rhoi sylw i gyfeiriad strategol y Gymraeg, sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Iaith a gofynion polisïau ieithyddol y Cyngor. Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth
Mae mwy o ystadegau am sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd i’w cael yn yr adran Ystadegau a data allweddol, ac mae proffil iaith ar gyfer wardiau’r Sir hefyd i'w gweld yn yr adran.
Gallwch gysylltu gyda’r Uned Iaith a Chraffu am unrhyw ymholiadau yn ymwneud efo’r Polisi neu ymrwymiad y Cyngor i Safonau’r Gymraeg drwy e-bostio: iaith@gwynedd.llyw.cymru