Peilot Cofrestru yn Awtomatig

Gwynedd yn cael ei gofrestru

Ymunwch â 90% o drigolion sydd eisoes wedi'u cofrestru ar y gofrestr etholiadol.

Beth ydym yn ei wneud?

Mae'r gyfraith yng Nghymru wedi newid, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i gofrestru i bleidleisio. Mae hyn yn newyddion gwych!

Cyngor Gwynedd yw un o'r cynghorau cyntaf yn y DU i dreialu cofrestru preswylwyr cymwys yn uniongyrchol. Bydd hyn yn digwydd dros yr haf mewn partneriaeth â Just Register, ymgyrch genedlaethol i wella cofrestru pleidleiswyr yn y DU.

Os ydych chi'n gymwys i bleidleisio, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich ychwanegu fel y gallwch ddweud eich dweud yn etholiadau lleol Cyngor Gwynedd a Senedd Cymru os byddwch yn dewis hynny.

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael eich cofrestru yma

 

Sut mae'n gweithio?

Dros y misoedd nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym fel awdurdod lleol i wirio pwy arall sydd ar goll o'r gofrestr.

Mae'r mathau o wybodaeth y gallwn edrych arnynt yn cynnwys:

  • Cofnodion y dreth gyngor
  • Gwybodaeth gan ysgolion lleol
  • Gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni pan fyddwch yn cael mynediad at ein gwasanaethau (e.e., ceisiadau cynllunio, casglu gwastraff)

Yn y mwyafrif o achosion, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth o gwbl. 

Yn syml, byddwn yn anfon llythyr atoch yn y post i gadarnhau eich bod wedi cael eich ychwanegu at y gofrestr etholiadol. 

Yna, bydd gennych 60 diwrnod i ymateb cyn i chi gael eich ychwanegu'n awtomatig at y gofrestr etholiadol leol.

 

A yw cofrestru yn fy helpu?

P'un a ydych chi'n dewis pleidleisio ai peidio, mae cael eich cofrestru yn rhoi hwb i'ch sgôr credyd a all ei gwneud hi'n haws cael morgais, car neu fenthyciad personol arall. Yn aml, mae benthycwyr yn edrych ar y gofrestr pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid, felly gall cofrestru ei gwneud yn haws i gael eich cymeradwyo. 

Gall cofrestru hefyd helpu eich cymuned mewn ffyrdd eraill. Mae'n sicrhau y gallwch ddweud eich dweud ar faterion sy'n eich effeithio ar lefel leol pryd bynnag y byddwch yn dewis dweud eich dweud.

 

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Ni fydd angen i'r mwyafrif o bobl wneud unrhyw beth ond aros am lythyr cadarnhad gennym yn y post. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni gadarnhau ychydig o fanylion ychwanegol cyn eich cofrestru'n iawn. Os yn berthnasol i chi, byddwn yn eich gwahodd i lenwi'r ffurflen sydyn hon fel bod modd i ni gysylltu â chi drwy neges destun neu alwad ffôn.

 

Mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgyrch gofrestru pleidleiswyr awtomatig hon, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Etholiadol.

Dylech hefyd gysylltu â ni os hoffech dynnu'n ôl o gael eich cofrestru ar y gofrestr neu os hoffech gael eich cofrestru'n ddienw am resymau diogelwch: