Digwyddiad Dathlu Diwylliant Gwynedd Er Lles Pawb

Dyddiad: 13/03/2026

Mae’r sector diwylliant wedi dod ynghyd yn ddiweddar ym Mhortmeirion ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu diwylliant yng Ngwynedd.

Wedi ei drefnu gan Cyngor Gwynedd, roedd y digwyddiad llawn bwrlwm gyda bron i 80 yn mynychu - yn gyfle i ddysgu, archwilio a dathlu’r sector gyda rhanddeiliaid, gan amlygu pwysigrwydd diwylliant er lles pawb.

Yn dilyn llwyddiant cynnal y digwyddiad cyntaf yn 2025, roedd y ffocws eleni ar rôl ganolog diwylliant wrth hybu iechyd a llesiant, gyda siaradwyr gwadd o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru (YFGC) Bangor a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyfrannu eu harbenigedd.

Meddai Jacob Ellis Cyfarwyddwr Materion Allanol a Diwylliant yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru:

“Mae diwylliant yn hanfodol i'n lles hirdymor. Ar draws Cymru, rydym yn gweld enghreifftiau cadarnhaol o les diwylliannol yn cael ei hybu yn lleol, yn aml wedi'i yrru gan bartneriaethau cryf ac arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar le.

“Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwynedd yn enghraifft gref o'r dull hwn ar waith, sy'n dangos sut y gellir ymgorffori diwylliant mewn penderfyniadau lleol mewn ffyrdd sydd wedi'u gwreiddio yn y gymuned a lle. Mae hon yn flwyddyn bwysig iawn i ddiwylliant yng Nghymru. Bydd rhoi diwylliant wrth wraidd  penderfyniadau - gan gynnwys drwy ein galwad am Ddeddf Diwylliant i Gymru - yn hanfodol os ydym am wireddu llawn botensial diwylliant i fod yn cefnogi iechyd, addysg, gweithredu ar yr hinsawdd, cymunedau cydlynus ac economi decach.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld Gwynedd yn parhau i ysbrydoli eraill yn y maes hwn."

Ychwanegodd  Dr Nia Jones, Deon Meddygaeth, Prifysgol Bangor:

"Yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, mae diwylliant a'r celfyddydau wedi'u plethu mewn addysg feddygol, sy'n helpu meddygon y dyfodol i ffurfio cysylltiad ystyrlon â chleifion a chymunedau tra'n cryfhau atebolrwydd cymdeithasol.

“Drwy iaith, adrodd straeon a'r celfyddydau, mae myfyrwyr hefyd wedi datblygu teclynnau i fyfyrio, adeiladu gwydnwch a dilyn gyrfaoedd iach a boddhaus. Credwn fod diwylliant yn hanfodol - nid yn ddewisol - wrth siapio gweithwyr proffesiynol gofal iechyd tosturiol, sydd wedi'u gwreiddio yn y gymuned."

Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd rhannu gweledigaeth ac egwyddorion diwylliant drafft Gwynedd – wedi eu cyd-greu mewn gweithdai blaenorol gan Cyngor Gwynedd a'r sector yn y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae diwylliant yn bwysig i bobl Gwynedd, ac mae Gwynedd yn bwysig i ddiwylliant. Mae’r fflam creadigrwydd wedi ei thanio yma ers canrifoedd, ac mae cynnal y fflam yn hanfodol ar gyfer hunaniaeth, yr iaith a traddodiadau cyfoethog ac amrywiol ein trigolion.

“Rwy’n falch iawn o weld y sector diwylliant yn dod at ei gilydd mewn lleoliad eiconig fel Portmeirion, sy’n dathlu carreg filltir arbennig eleni yn gant oed. 

“Mae gweithio mewn partneriaeth yn gryfder eithriadol, a dwi’n croesawu gweld cyd-ddatblygu gweledigaeth ac egwyddorion ar gyfer diwylliant yng Ngwynedd yn digwydd.

“Mae lansio’r Rhwydwaith Diwylliant heddiw hefyd yn ffordd hanfodol o hyrwyddo cydweithio, rhannu gwybodaeth a datblygu’r sector i fod yn gryf heddiw ac i’r dyfodol.”

Bydd Gweledigaeth ac Egwyddorion Diwylliant Gwynedd a Chynllun Gweithredu Diwylliant Gwynedd yn cael eu cyflwyno er cymeradwyaeth Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystod 2026.

Am ragor o wybodaeth am y celfyddydau a diwylliant yng Ngwynedd ewch i dudalen Celfyddydau Cymunedol ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/celf  neu dilynwch Gwynedd Greadigol ar y cyfryngau cymdeithasol.