Cyngor Gwynedd yn datblygu unedau diwydiannol newydd ym Minffordd
Dyddiad: 16/03/2026
Mae newyddion da ar y gorwel i’r sector fusnes yng Ngwynedd wrth i waith fynd rhagddo gan y Cyngor i ddatblygu unedau gwaith newydd mewn parc busnes ger Penrhyndeudraeth.
Diolch i fenter ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru mae gwaith i adeiladu unedau ddiwydiannol newydd – fydd yn gallu cartrefu hyd at 10 busnes – ym Mharc Busnes Eryri, Minffordd wedi dechrau.
Nod y prosiect gwerth £3 miliwn wedi ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru yw ymateb i’r prinder o unedau busnes sydd ar gael yn yr ardal.
Mae’r buddsoddiad hwn yn galluogi codi 4 adeilad newydd a fydd yn cynnig 10 uned hyblyg eu maint (70–100m²) sy’n addas ar gyfer busnesau newydd neu fusnesau sy’n ehangu.
Bydd yr unedau yn sero net o ran eu defnydd ynni, gyda phaneli solar ac unedau systemau gwresogi pwmp ffynhonnell aer yn cael eu gosod ynddynt. Bydd hyn yn lleihau costau tenantiaid ac yn cyfrannu i ymateb y Cyngor i'r argyfwng newid hinsawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned:
“Rydw i’n yn hynod falch o weld y gwaith ar yr unedau diwydiannol yma’n bwrw yn ei flaen wrth i Gyngor Gwynedd fuddsoddi yn y safle pwysig yma.
Bydd y prosiect yma’n mynd i’r afael â’r galw sylweddol gan fusnesau lleol am y math yma o ofod a dwi’n edrych ymlaen at weld busnesau yn gallu symud i fewn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r datblygiad hwn yn rhoi hwb pwysig i’r economi leol ac yn darparu cyfleoedd i bobol sefydlu busnesau ac i weithio yn eu cymunedau.
“Rwy’n edrych ymlaen i weld yr unedau newydd ar agor erbyn yr Hydref ac yn llawn bywyd, bwrlwm a mentergarwch.
“Mae’r Cyngor yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y datblygiad pwysig yma fydd yn gosod sail ar gyfer cydweithio pellach i’r dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Roberts, aelod lleol Penrhyndeudraeth:
“Rydw i’n croesawu’r cynnydd mae’r datblygiad yma wedi ei wneud hyd yma.
Bydd yn help i gadw busnesau yn yr ardal, cefnogi swyddi lleol, a darparu adnoddau modern i fusnesau, sydd yn hanfodol i dwf economaidd Minffordd a Penrhyndeudraeth.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Rwyf yn falch iawn o weld gwaith yn cychwyn ar y prosiect economaidd pwysig hwn i Gwynedd.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau newydd i ddechrau, helpu’r rhai presennol i dyfu a chreu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.”
Bydd yr unedau yn cael eu gosod drwy drefn gystadleuol, i gofrestru diddordeb ar gyfer yr unedau busnes cysylltwch â stadau@gwynedd.llyw.cymru.
Nodiadau
Penodwyd Cwmni Adeiladu OBR Construction trwy fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru i gwblhau’r gwaith.