Unedau diwydiannol, tir ac eiddo

Mae Cyngor Gwynedd yn berchen ar 48 o unedau diwydiannol, lleiniau tir diwydiannol a 2 Canolfan Menter - Intec, Parc Menai, Bangor a Mentec, Bangor.

Mae defnydd mwyafrif o'r unedau yn disgyn o dan dosbarthiadau cynllunio B1 (busnes), B2 (diwydiant cyffredinol) a B8 (ystorfa / dosbarthu).

Ymweliadau gyda apwyntiad yn unig!

Ar osod - unedau / tir / eiddo


Ymholiadau

Cysylltwch gyda stadau@gwynedd.llyw.cymru i drefnu apwyntiad i ymweld ar safle.

Gwneud Cais

I wneud cais i rentu uned neu lain o dir diwydiannol gan y Cyngor byddwch angen:

Anfon eich Cais

Gallwch anfon eich cais drwy:

Gwnewch yn siwr eich bod yn anfon yr holl wybodaeth berthnasol gyda'ch cais (rhestr wirio ar dudalen 7). Gallwch gyflwyno cynllun busnes, nid yw yn angenrheidiol.


Mwy o gymorth

Gellir cysylltu gyda gwasanaeth Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd) i dderbyn cymorth gyda darparu cynllun busnes. Mae’n wasanaeth gwybodaeth gyfrinachol a hollol ddiduedd rhad ac am ddim i fusnesau yng Nghymru.


Cysylltu â ni

Noder: Nid oes unrhyw orfodaeth ar Gyngor Gwynedd i ganiatáu tenantiaeth. Ystyrir pob achos yn unol â’i haeddiant ac yn unol â chanllawiau polisi. Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor roi rhesymau dros unrhyw benderfyniadau.