Gwaith yn dechrau ar dai fforddiadwy newydd ym Morfa Nefyn

Dyddiad: 29/05/2026

Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad o naw o dai fforddiadwy ar stad Maes Twnti ym Morfa Nefyn. Cynhaliodd Cyngor Gwynedd ddigwyddiad ar y safle ar 20 Mai i nodi’r garreg filltir arwyddocaol hon.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd y Cyngor, sy’n anelu at fynd i’r afael â phrinder tai yn y sir a sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at gartrefi fforddiadwy o safon uchel yn eu cymunedau eu hunain.

Bydd y datblygiad yn cynnwys pedwar tŷ dwy ystafell wely a phump tŷ tair ystafell wely. Bwriad y tai yw diwallu anghenion pobl leol, yn enwedig y rheini sy’n ei chael yn anodd prynu neu rentu cartref ond nad ydynt o bosib yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Castlemead Group, Saer Architects, Wakemans, ynghyd â'r Cynghorydd lleol Gareth Tudor Jones a'r Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo, yn bresennol yn y digwyddiad i nodi’r achlysur.

Bydd pob cartref Tŷ Gwynedd yn cael ei adeiladu yn unol ag egwyddorion craidd y cynllun, sef bod y tai yn fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithiol. Mae’r tai ym Morfa Nefyn wedi’u cynllunio gyda theuluoedd lleol mewn golwg, gyda rhai cartrefi’n gallu cael eu haddasu yn y dyfodol i ychwanegu mwy o ystafelloedd os bydd angen. Bydd y tai hyn ar gael i'w prynu drwy gynllun rhannu ecwiti unwaith y byddant yn barod.

Dyma’r trydydd datblygiad sy’n cael ei adeiladu drwy gynllun Tŷ Gwynedd, gyda gwaith eisoes yn mynd rhagddo ym Mangor, Llanberis, ac erbyn hyn, Morfa Nefyn. Y nod yw adeiladu 90 o dai fforddiadwy dros y blynyddoedd nesaf, gyda datblygiadau eraill ar y gweill ar safleoedd eraill trwy’r sir. 

Mae’r datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, sydd wedi’i ddatblygu er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd yn gallu cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r cynllun yn cynnwys darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy, gan gynnwys datblygu cartrefi newydd drwy gynllun Tŷ Gwynedd.

System ymgeisio wedi newid

Mae’n bwysig nodi bod y ffordd y gall trigolion lleol ymgeisio am dai Tŷ Gwynedd wedi newid. Bydd modd cyflwyno cais yn uniongyrchol i Gyngor Gwynedd am un o’r tai wrth iddynt ddod ar gael.

Mae’r Cyngor bellach wedi dechrau gweinyddu ei gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol trwy’r Siop un Stop Tai, gan ei gwneud yn haws i drigolion gael mynediad at wasanaethau tai mewn un lle.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ym Maes Twnti gael ei gwblhau erbyn haf 2027.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:

“Hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â ni i nodi’r garreg filltir bwysig hon ym Morfa Nefyn. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pobl leol yn gallu cael hyd i gartref addas yn eu cymunedau trwy ddarparu tai fforddiadwy, modern ac o safon uchel. Mae’r prosiect yma yn dangos hynny yn glir.

“Mae'r angen am dai fforddiadwy ym Morfa Nefyn yn uchel iawn, fel mewn llawer o ardaloedd ym Mhen Llŷn a ledled Gwynedd, gyda’r rhan helaeth o bobl leol yn ei chael yn amhosibl cystadlu yn y farchnad dai agored. Ym Morfa Nefyn mae bron i 75% o aelwydydd wedi’u prisio allan o’r farchnad, sy’n dangos maint yr her sy’n ein wynebu.

“Dyna beth sy’n gwneud cynllun Tŷ Gwynedd mor bwysig. Nid adeiladu tai yn unig ydym ni, ond buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau a sicrhau bod pobl leol yn cael y cyfle i fyw mewn cartrefi o safon, mewn cyfnod lle mae prisiau tai wedi codi y tu hwnt i gyrraedd llawer.”

Dywedodd Bart Wilkins, Cyfarwyddwr Contractau o Castlemead Group:

“Mae Castlemead Group yn falch iawn o fod wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu 9 cartref fforddiadwy ar gyfer y cleient, Cyngor Gwynedd, o dan gontract Dylunio ac Adeiladu. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar sylfeini’r plot gyda gwaith seilwaith i ddilyn yn fuan.

“Mae'r cartrefi newydd wedi'u cynllunio i gyrraedd perfformiad thermol uchel, gan helpu trigolion y dyfodol i arbed arian ar gostau gwresogi a biliau ynni, tra hefyd yn gwneud y cartrefi yn fwy cyfforddus i fyw ynddynt.

“Edrychwn ymlaen at weld y safle'n symud ymlaen tuag at y dyddiad cwblhau disgwyliedig yn haf 2027.