Newid i broses ymgeisio am gymorth trwy'r Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

Dyddiad: 01/04/2026

O heddiw (1 Ebrill 2026), bydd ceisiadau ar gyfer Cynllun Prynu Cartref Gwynedd yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan Gyngor Gwynedd.

Mae'r trefniant newydd hwn yn dilyn y drefn flaenorol, lle’r oedd Tai Teg yn gweinyddu’r cynllun ar ran y Cyngor. O heddiw ymlaen, bydd angen i unrhyw un sydd am wneud cais o’r newydd gysylltu â Chyngor Gwynedd yn uniongyrchol, naill ai drwy wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â thîm y Siop Un Stop tai.

Daw’r newid yma yn sgil lansiad Siop un Stop tai Cyngor Gwynedd, sy'n darparu un pwynt mynediad i drigolion ar gyfer cyngor a chefnogaeth tai. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y Cyngor yn dechrau gweinyddu ei gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol, gan ei gwneud hi'n haws i drigolion gael mynediad at wasanaethau tai mewn un lle.

Dyma un o nifer o gynlluniau gan Gyngor Gwynedd i sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad at dai fforddiadwy yn y sir trwy’r Cynllun Gweithredu Tai. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys codi mwy o dai, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a thaclo digartrefedd trwy ddatblygu mwy o dai â chefnogaeth yn y sir.

Bydd y newid yn digwydd gam wrth gam, gan ddechrau gyda Chynllun Prynu Cartref Gwynedd ac asesiadau Adran 106.

Dywedodd Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae gweinyddu’r cynllun yn uniongyrchol drwy Siop un Stop Tai Cyngor Gwynedd yn gam allweddol tuag at nod strategol ein Cynllun Gweithredu Tai o greu un lle i drigolion Gwynedd allu cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth tai. Bydd swyddogion y Siop un Stop, sy’n brofiadol ac yn arbenigo yn y maes tai, ar gael i helpu unrhyw un sydd eisiau cymorth y Cynllun Prynu Cartref, ac unrhyw gynllun neu ymholiad tai arall.”

“Ers ei lansio yn 2022, mae Cynllun Prynu Cartref Gwynedd wedi helpu 86 o aelwydydd i brynu cartref yn eu cymunedau lleol. Mae’r cynllun yn chwarae rôl pwysig yn y cymorth y mae’r Cyngor yn ei ddarparu i gefnogi pobl leol sydd eisiau byw yn eu cynefin ond sy’n ei chael yn anodd fforddio cartref ar y farchnad agored.”


Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am Gynllun Prynu Cartref Gwynedd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd a'r broses ymgeisio ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/PrynuCartref

Fel arall, gall trigolion gysylltu â'r Cyngor yn uniongyrchol:

  • tai@gwynedd.llyw.cymru
  • 01286 685100

Bydd Tai Teg yn parhau i weinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer cymdeithasau tai gan gynnwys Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru a Chlwyd Alyn.

Nodiadau

Beth yw Cynllun Prynu Cartref Gwynedd?

Mae’r cynllun rhannu ecwiti ‘Cynllun Prynu Cartref Gwynedd’ yn cynnig cymorth i bobl leol brynu tai o’r farchnad agored yn eu cymunedau eu hunain. Ers ei lansio ar ei newydd wedd yn 2022, mae’r cynllun gan Gyngor Gwynedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 86 aelwyd i brynu cartref yng Ngwynedd.

Ei brif nodweddion:

  • Gall prynwyr cymwys ddefnyddio'r cynllun i brynu cartref ar y farchnad agored.
  • Gallu benthyg rhwng 10% a hyd at 50% o werth yr eiddo.
Uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu: £300,000 – yn amodol ar dystiolaeth o angen (Gellir ystyried £350,000 mewn rhai achosion eithriadol).