Cynllun Prynu Cartref Gwynedd
Ydych chi’n cael trafferth i fforddio prynu tŷ addas ar y farchnad agored?
- Efallai gallwn helpu trwy fenthyg y gwahaniaeth rhwng pris tŷ a’r hyn gallwch ei gael fel morgais a blaendal.
- Gallwch fenthyg rhwng 10% a hyd at 50% o werth yr eiddo.
- Uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu - £300,000 (£350,000 mewn rhai achosion eithriadol).
Mwy o wybodaeth am y Cynllun Prynu Cartref
Gwneud cais am y Cynllun Prynu Cartref
Newid i broses ymgeisio am gymorth trwy’r Cynllun Prynu Cartref Gwynedd
Mae’r ffordd mae’r Cynllun Prynu Cartref Gwynedd yn gweithio wedi newid. Mae ceisiadau nawr yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan Gyngor Gwynedd. Mae’r trefniant hwn yn ddilyniant o’r trefniant blaenorol, lle’r oedd Tai Teg yn gweinyddu’r cynllun ar ran y Cyngor.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais gwneud hyn drwy Gyngor Gwynedd. Os ydych chi wedi dechrau’r broses o brynu tŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref gyda Tai Teg, does dim angen i chi wneud dim – byddwch yn parhau gyda Tai Teg.
Mae mwy o wybodaeth am y trefniant newydd ar gael ar ein tudalen cwestiynau cyffredin yma:
Cwestiynau cyffredin – cynlluniau tai fforddiadwy Gwynedd
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: