Datganiad Preifatrwydd Priffyrdd a Bwrdeistrefol

Pwrpas a sail gyfreithiol 

Rydym angen eich gwybodaeth er mwyn darparu gwasanaeth cymorth casglu i chi.

Mae gennym ddyletswydd statudol i gasglu sbwriel ac felly rydym yn dibynnu ar Erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i brosesu eich gwybodaeth. Mae’r erthygl yma yn caniatau i ni wneud hyn pan fo angen ar gyfer cyflawni ein tasg er y budd cyhoeddus. Os ydych yn rhannu manylion am eich iechyd efo ni, byddwn yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(g) sy’n caniatau i ni brosesu gwybodaeth sensitif os yw hynny er budd cyhoeddus sylweddol. Y ddeddf berthnasol ar gyfer gwneud hyn o dan Atodlen 1, Rhan 2, par 6 Deddf Diogelu Data 2018 ydi Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990.

 

Beth a wnawn efo’r wybodaeth 
Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rannu gyda neb y tu allan i’r gwasanaeth.

 

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich manylion am ddwy flynedd ar ôl y cais gwreiddiol.

 

Eich hawliau

Am wybodaeth am eich hawliau a manylion Swyddog Diogelu Data’r Cyngor ewch i’r darn preifatrwydd ar y wefan.