Datganiad Preifatrwydd Cronfa Twf Lleol

Nod y Gronfa yw cefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael â materion sy'n arwain at anghydraddoldebau economaidd.

Mae’r Gronfa yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth:

  • Blaenoriaeth 1: Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol
  • Blaenoriaeth 2: Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i mewn i waith
  • Blaenoriaeth 3: Gwella seilwaith rhanbarthol

 

Pam ein bod angen eich gwybodaeth?

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth i asesu eich cais am grant Gronfa Twf Lleol (GTLl)

Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych i weinyddu rhaglen GTLl ac i fonitro a gwerthuso'r prosiect/rhaglen.

 

Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau, bydd hyn yn penderfynu a fydd eich cais am grant yn llwyddiannus ai peidio.  Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth tra bod y prosiect yn cael ei weithredu, er mwyn gweinyddu, monitro a gwerthuso cynnydd eich prosiect.

 

Rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ganlynol:

  • Ein tasg gyhoeddus sef Erthygl 6 (1) (e) UK GDPR i brosesu'r wybodaeth bersonol yn eich Cais am Grant GTLl.
  • Ar gyfer unrhyw wybodaeth categori arbennig byddwn yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(a) sef caniatad.

Os teimlir fod achos o dwyll neu droseddu, gan gynnwys cynrychiolaeth ffug, yna byddwn yn cadw’r hawl i weithredu o dan Ddeddf Twyll 2006

 

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth?

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth efo sefydliadau isod:

  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol eraill o fewn Gogledd Cymru
  • Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru
  • Sefydliadau 3ydd Sector

ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill

Rhennir unrhyw wybodaeth ar sail angen gwybod yn unig, gyda’r unigolion addas a gyda’r lleiafswm o wybodaeth ar gyfer y pwrpas.

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.

 

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod o 10 mlynedd wedi taliad olaf o’r grant.

 

Eich hawliau

I ddysgu mwy am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, ewch i Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis