Camerâu Corff (Body Worn Video Cameras)
Mae gwahanol wasanaethau yn defnyddio camerâu corff (BWVC) yng Ngwynedd er mwyn darparu tystiolaeth ar gyfer erlyniadau a hefyd sicrhau diogelwch staff.
Mae’r gwasanaethau sydd yn defnyddio’r camerâu wedi eu rhestru isod:
- Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd
- Casglu Tystiolaeth mewn perthynas â achosion troseddol
- Er mwyn pwrpas iechyd a diogelwch i warchod Swyddogion
- Gwasanaeth Gofal Stryd
- Casglu Tystiolaeth mewn perthynas â achosion troseddol
- Er mwyn pwrpas iechyd a diogelwch i warchod Swyddogion
- Gwasanaeth Parcio
- Gwasanaeth Morwrol
- Gwasanaeth Llwybrau Cyhoeddus
Pwrpas a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Ein pwrpas wrth weithredu'r systemau yw atal a datgelu trosedd a diogelwch staff.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol a ddelir yw erthygl 6(1)(e) Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR) sydd yn caniatáu i ni brosesu data pan fydd yn angenrheidiol er dibenion ein tasg gyhoeddus.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol categori arbennig yw erthygl 9 (2) (g) Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR) sydd yn caniatáu i ni brosesu data pan fydd yn angenrheidiol dros resymau sylweddol yn niddordebau’r cyhoedd. Mae Rhan 2, atodlen 1, paragraff 12(1) yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol er mwyn anghenion rheoleiddio neu anonestrwydd.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol ynglŷn â erlyniadau chyfreithiol / troseddau yw rhan 35 (2) (b) o’r Ddeddf Diogelu Data 2018.
Beth fyddwn ni yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Delir delweddau ac fe'u cedwir yn ddiogel ar ein systemau. Bydd mynediad yn cael ei reoli'n llwyr i staff perthnasol yn unig.
Efallai y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu lle caiff ei ganiatáu fel arall dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mi all eich gwybodaeth gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.
Pa mor hir fyddwn ni'n cadw eich gwybodaeth?
Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hwy na'r angen. Gan amlaf, cedwir cofnodion (BWVC) am hyd at 30 diwrnod ond gall hyn ddibynnu ar bwrpas y wybodaeth. Efallai y bydd delweddau'n cael eu cadw am gyfnodau hirach os oes angen er dibenion gorfodi'r gyfraith.
Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn modd diogel.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?
Mae enghreifftiau o drydydd parti y gallwn rannu eich gwybodaeth â hwy yn cynnwys (ond ddim yn gyfyngedig i):
- Yr Heddlu
- Unigolion fydd yn gofyn am eu gwybodaeth eu hunain
- Cyfreithwyr
- Llysoedd mewn achosion erlyniad neu apêl
- Cynghorwyr mewn pwyllgor trwyddedu
Cael mynediad i Ddata
Gallwch weld eich data drwy gais, i wneud hyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor
Diweddarwyd ddiwethaf: Chwerfor 2022