Meysydd chwarae - trwydded diogelwch

Os ydych yn gweithredu maes chwaraeon sy’n dal mwy na 10,000 o wylwyr yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gall fod yn ofynnol i chi feddu ar dystysgrif ddiogelwch.

Gall tystysgrif ddiogelwch fod yn:

  • dystysgrif ddiogelwch gyffredinol a gyflwynir i ddefnyddio maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd, neu weithgareddau penodol, am gyfnod amhenodol
  • tystysgrif ddiogelwch arbennig ar gyfer defnyddio maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd neu weithgareddau penodol ar achlysur neu achlysuron arbennig.

Mae tystysgrifau diogelwch i’w cael gan eich awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sydd ynghlwm â thystysgrif.

Meini prawf cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys i gael tystysgrif ddiogelwch mae’n rhaid i chi fod yn debygol o fod mewn sefyllfa i rwystro torri amodau a thelerau’r dystysgrif.

Proses gwerthuso’r cais

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r cynlluniau a’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’r awdurdod lleol yn yr amser a nodwyd. Os yw’r ymgeisydd yn methu â darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y cyfnod a nodwyd bernir bod y cais wedi’i dynnu yn ôl.

Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried a yw’r ymgeisydd mewn sefyllfa i atal torri telerau ac amodau’r dystysgrif.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o gais am drwydded diogelwch i brif swyddog heddlu’r ardal, yr awdurdod tân ac achub a’r awdurdod adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch yr telerau a’r amodau i’w cynnwys mewn tystysgrif.

Os gwneir cais i drosglwyddo tystysgrif mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a fyddai’r unigolyn y gofynnir am drosglwyddo’r dystysgrif iddo yn gymwys i dderbyn tystysgrif petai’n gwneud cais.  Gall yr ymgeisydd fod yn ddeilydd cyfredol y dystysgrif neu’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o gais trosglwyddo trwydded diogelwch i brif swyddog heddlu yr ardal, yr awdurdod tân ac achub a’r awdurdod adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch unrhyw newid, adnewyddu neu drosglwyddo arfaethedig.

Gwneud cais

Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol

Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif ddiogelwch iddo am nad yw’n cael ei ystyried yn berson cymwys apelio yn y Llys Ynadon.

Gall ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif ddiogelwch arbennig iddo hefyd apelio yn y Llys Ynadon yn erbyn gwrthodiad o’i gais ar sail heblaw nad yw’n berson cymwys.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Rhaid i unrhyw ddeiliad tystysgrif sy’n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â, neu unrhyw beth a eithriwyd, o’u tystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu amnewid tystysgrif ddiogelwch, gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon.  Gall hefyd apelio yn y Llys Sirol yn erbyn gorchymyn gan y Llys Ynadon.

Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU.

Cwynion eraill

Gall unrhyw un sydd â rhan yn sicrhau cydymffurfio â thelerau ac amodau’r dystysgrif ddiogelwch gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm â, neu unrhyw beth a eithriwyd o, dystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch.

Cymdeithasau masnach

Federation of Sports and Play Associations (FSPA)