Sgaffald: Telerau ac Amodau

Amodau Safonol i Godi a Chynnal Sgaffaldau, Hordin, a/neu Adeladwaith Arall

Deddfwriaeth: Deddf Priffyrdd 1980: Adran 169 A 172

1) Ffi na ellir ei ad-dalu

(i) £113.00 hyd at 10 metr - fesul sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall (cyfnod hyd at 2 mis)
(ii) £131.00 rhwng 10 a 50 metr - fesul sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall (cyfnod hyd at 2 mis)
(iii) £149.00 dros 50 metr - fesul sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall (cyfnod hyd at 2 mis)

Dull talu:

  • Drwy ddefnyddio porth hunan wasanaeth a gwneud taliad gyda Cherdyn Debyd neu Gredyd. Ond noder y codi’r tal ychwanegol os ydych chi’n dewis talu gyda Cherdyn Credyd.

2) Estyniada(au) i’r drwydded (ffi na ellir ei ad-dalu)

(i) £113.00 hyd at 10 metr - fesul sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall (fesul pob mis dilynol)
(ii) £131.00 rhwng 10 a 50 metr - fesul sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall (fesul pob mis dilynol)

(iii) £149.00 dros 50 metr - fesul sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall (fesul pob mis dilynol)

Dull Talu:

  • Trwy ffonio (01766) 771000 (Galw Gwynedd) rhwng 9:00yb a 5:00yh a gwneud taliad gyda Cherdyn Debyd neu Gredyd.

3) Rhaid i'r ymgeisydd:

(a) Cwblhau y cais o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cychwyn gofynnol y drwydded.
(b)
Peidio adneuo'r sgaffaldiau, hordin, a/neu adeiladwaith arall ar y Briffordd hyd nes y byddwch wedi derbyn y drwydded.

4) Mae'n Rhaid i'r Trwyddedai:

(a) sicrhau bod y strwythur yn cael ei oleuo'n ddigonol ar bob adeg rhwng hanner awr ar ôl machlud haul a hanner awr cyn codiad haul.
(b) cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir yn ysgrifenedig gan yr awdurdod mewn perthynas â chodi a chynnal a chadw arwyddion traffig mewn cysylltiad â'r strwythur.
(c) gwneud pethau o'r fath mewn cysylltiad â'rsgaffaldiau, hordin, a/neu adeiladwaith pan bod unrhyw awdurdod priffyrdd neu ymgymerwyr statudol yn gofyn yn rhesymol at y diben o warchod neu roi mynediad i unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i neu a ddefnyddir neu a gynhelir ganddynt.
(ch) cael eu hatgoffa mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod y sgaffaldiau neu strwythur arall, yn strwythurol gadarn, yn cael ei godi yn briodol i safonau cyfredol a'u cynnal, a bod darpariaeth ddigonol ar gyfer sicrhau taith ddiogel i ddefnyddwyr y briffordd.
(d) pan fo’r angen, ddarparu llwyfan a chanllaw felllwybr troed i gerddwyr pan mae lled llawn y llwybrtroed yn cael ei ddefnyddio gan sgaffaldiau, hordin,a/neu adeiladwaith arall.
(dd) sicrhau bod digon o le yn cael ei adael i gerddwyr gyda chadeiriau gwthio a defnyddwyr cadair olwyn.
(e) cysylltu â’r Uned Parcio (01766 771 000) i wneud trefniadau angenrheidiol os oes mannau parcio yn cael eu heffeithio.
(f) bydd y strwythur yn cael ei gynllunio, codi, addasu, a datgymalu gan bersonél gyda chymwysterau addas.

5) Bydd yr ymgeisydd yn indemnio Cyngor Gwynedd yn erbyn unrhyw atafaeliadau, gweithredoedd, achosion, hawliadau, gorchmynion, cost, iawndal a threuliau y gellir eu codi neu ei wneud yn ei erbyn oherwydd unrhyw fater a allai godi yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i’r caniatâd hwn. Y lleiafswm derbynniol ar gyfer gorchydd Atebolrwydd Cyhoedd yw £10 miliwn.

6) Nodwch, os bydd eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn dod I ben o fewn y cyfnod a gymeradwywyd y drwydded, eich cyfrifoldeb chi yw adnewyddu’r yswiriant fel ei bod yn cyd-fynd a’r polisi blaenorol. Bydd angen gyrru copi o’r polisi newydd i Cyngor Gwynedd. Os na fyddwn yn derbyn y polisi adnewyddu, bydd y drwydded yn annilys ar ddydiad gorffen y polisi blaenorol.

7) Bydd yr ymgeisydd yn atebol am unrhyw ddifrod i strwythur y briffordd a/neu i gyfarpar Ymgymerwyr Statudol yn deillio o adeiladu, cynnal a chadw, datgymalu sgaffaldiau, hordin, a/ neu strwythurau eraill ar y briffordd a fydd yn gyfrifol am ad- dalu Cyngor Gwynedd neu ei Asiant am y costau gwirioneddol o atgyweirio unrhyw ddifrod.

8) Ni chaiff yr un sgaffald, hordin, a/neu adeiladwaith arall aros ar y briffordd ar ôl y cyfnod a bennir ar y drwydded. Anfonir anfoneb am y ffi na ellir ad-dalu o £113.00, £131.00, neu £149.00 ynghyd â £125 ychwanegol (bob mis) ar gyfer unrhyw sgaffaldiau, hordin, a/neu strwythurau eraill sydd heb trwydded.

9) Gall yr awdurdod priffyrdd neu gwnstabl mewn iwnifform gofyn i'r perchennog y sgaffaldiau, hordin, a/neu adeiladwaith arall i dynnu neu ail-leoli neu beri i dynnu neu ail-leoli. Gall unrhyw gostau rhesymol sydd yn gysylltiedig â symud neu ail-leoli'r sgaffaldiau, hordin, a/neu adeiladwaith arall cael ei adennill oddi wrth berchennog yr eiddo.

10) Gall Cyngor Gwynedd nodi unrhyw amodau perthnasol eraill sy’n ymwneud â lleoliad y sgaffaldiau, hordin, a/neu adeiladwaith arall yn ôl yr angen.