Stondin Marchnad a Ffeiriau
Er mwyn rhedeg stondin marchnad, rhaid i chi gael caniatâd yr awdurdod lleol.
Gwneud cais am drwydded stondin marchnad
- Gweld amodau a rheoliadau marchnad awyr agored
- Cwblhau'r ffurflen
- E-bostio at: gwaithstryd@gwynedd.llyw.cymru
Proses gwerthuso’r cais
Nid yw masnachwyr achlysurol yn cael eu trwyddedu ar gyfer marchnad benodol ond gallant fynychu ar ddydd y farchnad a chael unrhyw le sydd ar gael. Mae hyn ar yr amod nad yw cynnyrch y masnachwr yn rhy debyg i gynnyrch masnachwr parhaol. Gyda Goruchwyliwr y Farchnad y mae’r cyfrifoldeb am benderfynu a yw’r masnachwr yn addas ai peidio
I wneud cais am stondin marchnad barhaol rhaid i chi gychwyn fel masnachwr achlysurol. Unwaith y daw lle parhaol ar gael, a’ch bod ar frig y rhestr masnachwyr achlysurol, ac nad yw’r hyn rydych yn ei werthu ar gael yn ddigonol yn barod, byddwch yn cael cynnig y lle ac yn cael trwydded yn syth os byddwch yn derbyn.
Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall
Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â
Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).
Ffeiriau
I wella trefniadau a sicrhau diogelwch yn y ffeiriau mae gofyn i bob stondinwr o hyn ymlaen wneud cais am eu trwydded a thalu’r ffi ymlaen llaw.
I wneud cais: