Deliwr metel sgrap

Deddf Delwyr metel sgrap 2013 - Trefn Drwyddedu Newydd

Yn mis Chwefror 2013 cafodd deddfwriaeth newydd ei basio sydd yn cyflwyno dull rheoli newydd ar gyfer delwyr metel sgrap.


Beth yw’r prif newid?

Er mwyn cario allan busnes sy’n delio mewn metel sgrap fe fydd angen trwydded gan y Cyngor.

Mae dau fath o drwydded;

  1. Trwydded Safle - Bydd pob safle lle mae busnes delio mewn metel sgrap angen trwydded. Rhaid cael rheolwr safle dynodedig ar gyfer bob safle. Gall sgrap o ardaloedd Cynghorau eraill gael ei gludo a’i storio mewn safle trwyddedig.
  2. Trwydded Casglwr - Mae’r drwydded yma yn galluogi unigolyn i weithredu fel casglwr metel sgrap oddi fewn i Wynedd. Nid yw yn caniatáu unigolyn i weithredu mewn ardaloedd cynghorau  eraill - fe fydd angen trwydded ar gyfer bob ardal gan y Cyngor perthnasol. Gall unigolyn sydd â thrwydded casglu ddim derbyn trwydded safle gan yr un Cyngor.

Mae casglu metel sgrap neu gynnal safle metel sgrap heb drwydded nawr yn drosedd.

Bydd trwydded yn para am 3 blynedd. Bydd yr angen i gael cerdyn adnabod, cadw cofnodion a’r gwaharddiad ar dalu am fetel gyda phres yn parhau.


Beth yw deliwr metel sgrap, safle, casglwr symudol a metel sgrap?

Deliwr metel sgrap
Deliwr ydy unrhyw berson sydd â busnes sydd yn llwyr ymwneud neu’n rhannol ymwneud gyda phrynu neu werthu metel sgrap. Lle fo cwestiwn yn bodoli os yw person yn disgyn dan y diffiniad ai peidio bydd i’r Cyngor benderfynu yn y lle cyntaf os oes angen trwydded ai peidio.

Safle
Safle ydy unrhyw eiddo lle mae busnes metel sgrap yn cael ei weithredu o . Nid oes angen, o reidrwydd, i fetel gael ei storio yno. Gall deliwr sydd yn gweithio o swyddfa fod angen trwydded ar gyfer y swyddfa.

Casglwr Symudol
Casglwr symudol yw person sydd yn ddeliwr metel sgrap heb safle. Bydd casglwr symudol fel arfer yn casglu metel o ddrws i ddrws.

Metel sgrap
Mae diffiniad metel sgrap yn cynnwys hen fetel, metel gwastraff, defnydd / cynnyrch neu nwydd sydd wedi ei wneud o neu yn cynnwys metel sydd wedi torri neu o ddim defnydd bellach. Ni ystyrir nwyddau ail law yn fetel sgrap. Mae beth sydd ac sydd ddim yn nwydd ail law yn fater i’r Cyngor benderfynu.


Sut mae gwneud cais am drwydded?

Dylid eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol y medrwch ar y ffurflen.

Fe fydd yn ofynnol i’r Cyngor asesu addasrwydd ymgeiswyr i gael trwydded. Fel rhan o’r broses yma bydd y Cyngor am sefydlu os oes gan ymgeisydd gofnod o drosedd cyfoes perthnasol yn eu herbyn.


Sut mae asesu addasrwydd ymgeisydd?

Bydd angen i unigolyn sydd yn ymostwng cais am drwydded gynnwys TYSTYSGRIF DATGUDDIAD SYML gyda’r cais. Medrwch wneud cais am dystysgrif `dros y we https://www.gov.uk/request-copy-criminal-record

Y gost yw £18.00. Mae cais fel arfer yn cymryd 14 diwrnod i brosesu.

Mae tystysgrif yn manylu os oes gan ymgeisydd gofnod troseddol perthnasol sydd heb ddod i ddiwedd (unspent). Nid yw’r ffaith fod gan ymgeisydd gofnod troseddol ddim o reidrwydd yn eu gwahardd rhag cael trwydded. Fe fydd cais am drwydded sydd yn cael ei ymostwng heb dystysgrif yn cael ei wrthod.


Oes ffi am drwydded?

Mae ffioedd wedi ei rhestru isod.

Safle
Cais am drwydded safle                       £330.00
Cais i adnewyddu trwydded safle         £230.00
Cais am amrywiad i drwydded safle     £100.00

Casglwr
Cais am drwydded casglwr                    £250.00
Cais i adnewyddu trwydded casglwr     £165.00
Cais am amrywiad i trwydded casglwr  £90.00

Fe fydd y drwydded yn para a dair mlynedd.


Beth os caiff cais ei wrthod?

Os yw’r Cyngor am wrthod cais (neu ei dynnu nôl, neu ei amrywio) cewch eich hysbysu o’r bwriad ar rhesymau pam. Byddwch wedyn yn cael siawns i ymostwng cynrychiolaeth , o leiaf 14 wedi dyddiad ein hysbyseb.

Os fyddwch am wneud cynrychiolaeth ar lafar bydd y mater yn cael ei glywed yn swyddfeydd y Cyngor. Bydd unrhyw benderfyniad dilynol yn cael ei ddarparu i chi’n ysgrifenedig.
Mae hawl apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor mewn Llys Ynadon.


Cofrestr gyhoeddus

Gweld cofrestr gyhoeddus o drwyddedau deliwr metel sgrap yng Ngwynedd


Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Swyddfa Gartref
www.gov.uk/government/organisations/home-office

Cysylltwch â Tîm Llygredd ar 01766 771 000 am fwy o wybodaeth.