Tyrau oeri

Os ydych yn rheoli eiddo annomestig mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu'r awdurdod lleol os oes tŵr oeri neu gyddwysydd anweddu (dyfeisiadau y dylid hysbysu yn eu cylch) yn yr eiddo.

Rhaid cyflwyno'r wybodaeth yn ysgrifenedig (gan gynnwys dulliau electronig) ar ffurflen a gymeradwyir gan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch.

Rhaid hysbysu'r awdurdod lleol os bydd unrhyw newid yn yr wybodaeth a gyflwynir, a hynny yn ysgrifenedig o fewn 1 mis i'r newid.

Os bydd y ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i'r awdurdod lleol gynted ag y bo modd.


Gwneud cais

Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.


Deddfau perthnasol

Deddf Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddu 1992

 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed cwblhau.


Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.


Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.


Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).


Cofrestr gyhoeddus

Gweld cofrestr gyhoeddus o gofrestriadau tyrau oeri yng Ngwynedd