Casglu o ddrws i ddrws

Er mwyn mynd o ddrws i ddrws yn casglu arian at elusen yn Lloegr a Chymru, mae gofyn i chi gael trwydded gan eich cyngor lleol.

Mae gan rai sefydliadau - elusennau mawr - orchmynion eithrio gan y Swyddfa Gartref sy’n golygu nad oes arnynt angen trwydded. Dylai’r sefydliadau hyn roi gwybod i’r awdurdod lleol yr un fath.

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i’r cais fod ar ffurf a ragnodir gan yr awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn cymwys a phriodol.

Proses gwerthuso’r cais

Neilltuir caniatâd casglu o ddrws i ddrws am wythnos. Er mwyn ceisio osgoi sefyllfa pan fo dau neu fwy o gasgliadau'n digwydd ar yr un pryd yn yr un lle, mae’r Cyngor yn cadw cofrestr casgliadau. Dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â’r Cyngor ynghylch pryd a lle yng Ngwynedd maent yn bwriadu casglu o ddrws i ddrws. Os yw’r dyddiad penodol ar gael, caiff y dyddiad ei gadw dros dro i’r sawl sy’n gwneud cais amdano, a bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Gellir ymgeisio hyd at flwyddyn ymlaen llaw, ond ddim llai na mis cyn y dyddiad. Ond mewn achosion arbennig fel trychineb, gellir rhoi rhybudd o lai na mis.

Gwneud cais

Am ragor o wybodaeth, i ddweud wrthym am gasgliad neu am ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol

Deddf Casgliadau Drws i Ddrws 1939 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Mae gennych hawl i apelio at Weinidog Swyddfa’r Cabinet.  Rhaid cofrestru apeliadau o fewn 14 diwrnod i’r gwrthodiad.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Mae gennych hawl i apelio at Weinidog Swyddfa’r Cabinet. Rhaid cofrestru apeliadau o fewn 14 diwrnod o’r penderfyniad.

Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).