Unedau diwydiannol, tir ac eiddo
Mae Cyngor Gwynedd yn berchen ar 48 o unedau diwydiannol, lleiniau tir diwydiannol a 2 Canolfan Menter - Intec, Parc Menai, Bangor a Mentec, Bangor.
Mae defnydd mwyafrif o'r unedau yn disgyn o dan dosbarthiadau cynllunio B1 (busnes), B2 (diwydiant cyffredinol) a B8 (ystorfa / dosbarthu).
Ymweliadau gyda apwyntiad yn unig!
Ar osod - unedau / tir / eiddo
Lleolir InTec ym Mharc Menai, Bangor gyda mynediad uniongyrchol i briffordd yr A55 ar gyfer mynediad uniongyrchol i ranbarth Gogledd Cymru. Rhennir yr eiddo deulawr 2000m2 yn ddwy adain sydd yn ymestyn o dderbynfa a rennir a safle arddangos ar y llawr isaf gyda chyfleusterau cynhadledd a ffreutur ar y llawr cyntaf. Mae’r lle ar gael yn amrywio o swyddfeydd wedi carpedu 20m2 a 40m2 ar y llawr cyntaf a swyddfeydd wedi carpedu a labordai 70m2 -100m2 ar y llawr isaf, cyfanswm o 25 unedau.
Unedau sydd ar gael i'w gosod
Unedau Intec sydd ar gael
Uned | Troedfedd sgwar | Medr sgwar | Rhent Blynyddol + TAW | Gwasanaethau Blynyddol + T.A.W | Lluniau |
F5 |
355 |
32 |
£3,728.00
|
£3,705.00 |
Lluniau F5 |
F6 |
431 |
40 |
£4,526.00 |
£3,705.00 |
Lluniau F6 |
F8 |
456 |
42 |
£4,788.00 |
£3,705.00 |
Lluniau F8 |
G3 |
872 |
81 |
£7,848.00 |
£4,446.00 |
Lluniau G3
|
G10 |
872 |
81 |
£7,848.00 |
£4,446.00 |
Lluniau G10 |
Nodweddion cynllun yr adeilad
- Cyfleusterau cynhadledd
- Ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol
- Gwasanaeth Derbynfa rhannol yn ôl anghenion tenantiaid
- Gwasanaeth llungopïo a sganio
- Ceblau CAT5E strwythuredig drwy’r adeilad
- Cysylltiadau 100Mb “Fibrespeed” llinell unigryw i’r we
- System ffôn canolog digidol gydag estyniadau DDI
- Diogelwch cyflawn i bob uned gyda mynediad 24/7 trwy dechnoleg ffob electroneg
- Gwyliadwriaeth TCCD ar gyfer diogelwch ychwanegol
- Tirlunio amgylcheddol
- Parcio ymwelwyr a tenantiaid
- Cyfleusterau sbwriel ac ailgylchu
- Mesurydd trydan ar gyfer bob uned
- Adeilad allanol ar gyfer storio cemegau
- Anfonebu misol parthed defnydd systemau diogelwch, ynni, ffôn, cysylltiad i’r we
Pecyn cefnogi tenantiaid
- Defnydd gostyngol o gyfleusterau cynhadledd
- Cyngor busnes a marchnata ar gael yn lleol
- Telerau a chytundebau hyblyg
Ymholiadau
Cysylltwch gyda stadau@gwynedd.llyw.cymru i drefnu apwyntiad i ymweld ar safle.
Gwneud Cais
I wneud cais i rentu uned neu lain o dir diwydiannol gan y Cyngor byddwch angen:
- Llawrlwytho a llenwi'r Ffurflen Gais
- Ar gyfer Uned Glynllifon: Ffurflen Gais Glynllifon
- Cysylltu gydag Adran Cynllunio Cyngor Gwynedd neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (yn ddibynnol ar leoliad yr uned) er mwyn sicrhau bod defnydd bwriadedig yr uned / tir yn cydymffurfio gyda'r caniatâd cynllunio perthnasol.
- Bydd pob cais yn cael ei asesu’n unigol yn unol â’r ffurflen.
Anfon eich Cais
Gallwch anfon eich cais drwy:
- E-bost: stadau@gwynedd.llyw.cymru
- Post: Stadau, Adran Tai & Eiddo, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH.
Gwnewch yn siwr eich bod yn anfon yr holl wybodaeth berthnasol gyda'ch cais (rhestr wirio ar dudalen 7). Gallwch gyflwyno cynllun busnes, nid yw yn angenrheidiol.
Mwy o gymorth
Gellir cysylltu gyda gwasanaeth Busnes Cymru i dderbyn cymorth gyda darparu cynllun busnes. Mae’n wasanaeth gwybodaeth gyfrinachol a hollol ddiduedd rhad ac am ddim i fusnesau yng Nghymru.
Cysylltu â ni
Noder: Nid oes unrhyw orfodaeth ar Gyngor Gwynedd i ganiatáu tenantiaeth. Ystyrir pob achos yn unol â’i haeddiant ac yn unol â chanllawiau polisi. Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor roi rhesymau dros unrhyw benderfyniadau.