Llety gwyliau ac hunanarlwyo - gwastraff masnachol
Os ydych chi’n defnyddio eich eiddo ar gyfer busnes, un ai yn ei osod fel llety gwyliau, llety hunanarlwyo neu os ydych yn rhedeg gwesty, mae’n ddyletswydd cyfreithiol arnoch chi i sicrhau bod y gwastraff yn cael ei reoli’n gywir. Bydd rhaid i gludwr gwastraff trwyddedig ei gasglu a’i waredu.
Cofiwch! Os yw’r eiddo wedi’i gofrestru ar gyfer ardrethi busnes (trethi annomestig cenedlaethol) nid yw ardrethi busnes yn cynnwys y casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu masnachol. Rhaid talu am y gwasanaeth hwn yn ychwanegol.
Gwasanaeth casglu gwastraff masnachol Cyngor Gwynedd
Rydym yn cynnig casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol dibynadwy.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys:
- cyflenwad o finiau wedi eu dosbarthu
- ffi gwaredu
- eich dogfennaeth Dyletswydd Gofal
- casgliadau rheolaidd.
Gwneud cais neu cysylltu â ni
Cysylltwch â ni:
Nid oes unrhyw gostau cudd ac nid oes TAW i'w hychwanegu.
Darparwyr gwastraff masnachol gwahanol i Gyngor Gwynedd
Os byddwch yn dewis defnyddio darparwr gwasanaeth gwahanol i Gyngor Gwynedd mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid i chi brofi, trwy ddangos Dyletswydd Gofal/Nodyn Trosglwyddo Gwastraff, fod gennych drefniadau casglu gwastraff priodol mewn grym.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am blismona y drefn newydd o safbwynt ymrwymiad busnesau a chasglwyr y deunydd.