Digwyddiadau Busnes

Mae digwyddiadau ar gyfer busnesau yn cael eu cynnal ar hyd y flwyddyn yng Ngwynedd. Cadwch lygaid ar y dudalen i weld y diweddaraf am ddigwyddiadau Busnes@Gwynedd.


Digwyddiadau ar y gweill

Oes gennych swyddi i lenwi?

Mae Gwaith Gwynedd yn cynnal cyfres o ffeiriau swyddi yng Ngwynedd sydd yn gyfle gwych i fusnesau lleol cyfarfod pobol sydd yn edrych am swyddi. Os ydych eisio’r cyfle i gael stondin am ddim er mwyn arddangos eich swyddi agored, cysylltwch â Gwaith Gwynedd drwy e-bostio: rebeccawilliams@gwynedd.llyw.cymru

  • 27/05/2026, 10:00-12:30 – Bangor, Bwyd Da 

Yn ystod ffair swyddi Porthmadog, bydd yna Gornel Cymorth Busnes, ble fydd Busnes@ Gwynedd a nifer o sefydliadau Cymorth Busnes ar gael i ddarparu cymorth a gwybodaeth i fusnesau.

Does ddim angen tocyn, dewch draw ar y diwrnod am sgwrs!

Ym mis Mehefin, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio, gan gynnig cyfle i fusnesau lleol gael mynediad at gyngor gan ystod eang o sefydliadau cymorth mewn un lle.

Bydd y sesiynau’n rhoi cyfle i gysylltu â chynrychiolwyr sy’n cwmpasu meysydd fel datblygu busnes, cyllid, recriwtio, hyfforddiant, cynaliadwyedd a rheoleiddio, yn ogystal â chael gwybod mwy am y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol.

 

Pryd? Lle? Sut i archebu lle? 

 04/06/2026

15:00-18:00

Abermaw  Digwyddiad Abermaw

 09/06/2026

16:00-18:00

 Pwllheli Digwyddiad Pwllheli

12/06/2026

11:00-15:00 

Bangor  Digwyddiad Bangor