Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC)
Mae tîm datblygu gweithlu gofal cymdeithasol Gwynedd yn cefnogi cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer y sector.
Mae’r tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i weithlu gofal cymdeithasol yr Awdurdod yn ogystal â’r Bartneriaeth Gofal Cymdeithasol ehangach yng Ngwynedd.
Mae aelodaeth Partneriaeth RhDGGCC yn cynnwys yr awdurdod lleol, y sector annibynnol a’r trydydd sector, darparwyr gofal cymdeithasol (cartrefol a phreswyl), a phartneriaid sy’n cydweithio i gefnogi’r sector i ddatblygu gweithlu sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol i fodloni gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau uniongyrchol).
Rhoddir ffocws i feysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir fel y nodir yng Nghylchlythyr Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallwch gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio ein rhaglen hyfforddi drwy ddychwelyd eich Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn flynyddol
Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio’r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i’w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau.
Rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol sydd gennych neu sylwadau am y ddarpariaeth
I gael mynediad i hyfforddiant neu adnoddau digidol cysylltwch caishyfforddiant@gwynedd.llyw.cymru
Gweld Rhaglen Hyfforddi Partneriaeth Gwynedd 2026-27