Busnesau: Arbed Ynni Arbed Arian

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau ynni cynyddol, cynhaliodd Uned Cefnogi Busnes y Cyngor weminar ar gyfer busnesau lleol oedd yn edrych ar ffyrdd o effeithlonni eu hadnoddau er mwyn gostwng eu costau a’u hallyriadau carbon.

Yn cymryd rhan yn y digwyddiad roedd Richard Fraser-Williams o Fusnes Cymru a Stu Meads, ymgynghorydd amgylcheddol o brosiect yr Academi Ddigidol Werdd, Coleg Llandrillo-Menai.

Mae copi o gyflwyniadau’r gweminar, y Canllaw Arbedion Gwyrdd a phecyn gwybodaeth pellach ar gael isod:

  1. Cyflwyniadau Busnes Cymru a’r Greener Edge
  2. Canllaw Arbedion Gwyrdd
  3. Pecyn Gwybodaeth Bellach