Rhaglen ARFOR
Rydym bellach wedi derbyn ceisiadau i gronfa Cymunedau Mentrus cyfwerth a mwy na chyfanswm y gronfa. Serch hynny, rydym yn gobeithio denu mwy o gyllid i gefnogi busnesau Gwynedd yn y dyfodol agos, felly rydym yn hapus i barhau i dderbyn ceisiadau ond ni fyddwn yn gallu eu hystyried heb gadarnhad o arian ychwanegol.
Close
Cymunedau Mentrus – Cronfa Cefnogaeth Rhaglen ARFOR
Mae'r gronfa hon yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol, chydweithredol a chymunedol sy'n anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR)
Cyngor Gwynedd sydd yn gweinyddu'r gronfa ar ran Gwynedd.
Beth sydd ar gael?
- Cyllid i gyfrannu at gostau refeniw a chyfalaf.
- Cefnogaeth ariannol i dalu am hyd at 70% o gostau'r prosiect.
- Cefnogaeth rhwng £5,000 a £75,000 ar gael.
Mae’r Gronfa am gefnogi prosiectau sy’n:
- Creu cyfle i arloesi a datblygu mentrau newydd yn unol ag adnoddau, tirwedd a’r amgylchedd lleol.
- Creu neu ehangu cyfleoedd gwaith cyfoes (er enghraifft. ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol)
- Cadw cyfoeth yn y rhanbarth (er enghraifft, trwy feysydd megis cynhyrchu ac arbed ynni, cadwyni cyfenwi’r sectorau sylfaenol).
Mae gofyniad i ymgeiswyr gwblhau asesiad Iaith sy’n cael ei gynnal gan Gomisiynydd y Gymraeg fel rhan o’r broses, ac ymrwymo i weithio gyda Comisiynydd y Gymraeg i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg erbyn Rhagfyr 2024. Cynnig Cymraeg
Canllawiau
Darllenwch y canllawiau a'r dogfennau canlynol cyn cyflwyno eich cais:
Gwneud Cais
Cwblhewch a dychwelwch y 5 ffurflen uchod i busnes@gwynedd.llyw.cymru
Mwy o wybodaeth
Q&A Cymunedau Mentrus
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen newydd gweler wefan ARFOR
Am fformatau hygyrch fel print mawr, Braille neu Iaith Arwyddo Prydain cysylltwch â ni: busnes@gwynedd.llyw.cymru