Cronfa Twf Lleol

Ym mis Hydref 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd £547m yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru dros dair blynedd drwy’r Gronfa Twf Lleol: Mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru


Nod y Gronfa yw cefnogi twf cynhyrchiant a mynd i'r afael â materion sy'n arwain at anghydraddoldebau economaidd.

Mae’r Gronfa yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth:

  • Blaenoriaeth 1: Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol
  • Blaenoriaeth 2: Cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i mewn i waith
  • Blaenoriaeth 3: Gwella seilwaith rhanbarthol

Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar weithrediad y Gronfa yng Nghymru. Trwy’r Cynllun Buddsoddi, bydd yn gweithio gyda’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol i lunio’r cynllun sut mae’r cyllid yn cael ei wario. 

Mae cyfanswm o £33.98 miliwn wedi ei ddyrannu i ranbarth Gogledd Cymru ar gyfer 2026-27 gyda 70% (£23.65 miliwn) yn arian cyfalaf a 30% (£10.33 miliwn) yn arian refeniw. Y dyraniad ar gyfer 2027-28 fydd £41.44 miliwn, ac yn 2028-29 bydd yn £39.92 miliwn.

 

Y Gronfa yng Ngwynedd

Mae £6.2 miliwn o arian wedi ei glustnodi ar gyfer cynlluniau yng Ngwynedd yn ystod 2026-27 gyda 70% yn arian cyfalaf a 30% yn arian refeniw.

Daeth y Gronfa i rym ar 1 Ebrill 2026. Ar gyfer 2026-27, bydd y trefniadau dyrannu yn dilyn model y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ystod 2022 – 2026, gyda Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel awdurdod arweiniol yn rhanbarth Gogledd Cymru. O 2027-2028 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu ac yn dyfarnu cyllid i Uchelgais Gogledd Cymru fel y Cyd-bwyllgor Corfforedig i’r rhanbarth.  

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn y rhanbarth yn cynllunio sut i ddyrannu’r cyllid yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru

 

Strategaeth Economi Gwynedd

Ar 14 Mai 2026 fe wnaeth Cyngor Gwynedd fabwysiadu strategaeth Gwynedd 2035: Economi sy’n Gweithio i Bawb. Bydd cynllun cyflawni yn cefnogi’r strategaeth hon i gydlynu’r gwaith yn y maes ac i adnabod pa brosiectau ddylai gael blaenoriaethu ar gyfer eu cyllido, gan gynnwys drwy’r Gronfa Twf Lleol.

 

Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw brosiect neu syniadau y dylid eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yng nghynllun cyflawni’r strategaeth.

 

Cysylltu â ni

Cysylltwch â  TwfLleol@gwynedd.llyw.cymru am fwy o wybodaeth.