Cronfa Benthyciadau Busnes

Bydd benthyciadau bach a wneir gan y Gronfa rhwng £25k a £100k, gyda’r cyfle i fenthyg symiau uwch (benthyciad Ased o hyd at £750k) cyn belled â’i fod wedi ei gefnogi gan warant seiliedig ar ased gwerth da (tir ac adeiladau yn nodweddiadol).  Bydd hyd tymor arferol benthyciad bach rhwng 36 a 60 mis; bydd benthyciad Ased fel arfer am o leiaf 60 mis. 

Mae’r Gronfa yn gweithredu o fewn ffiniau Cyngor Gwynedd ac fe ddylai pob busnes fod â’i ganolfan weithredu neu fod â nifer sylweddol o’i weithwyr parhaol llawn amser o fewn ffiniau Gwynedd.  Mae cymhwyster wedi ei gyfyngu i fusnesau (yn cynnwys mentrau cymdeithasol) sy’n gymwys fel busnesau Bach a Chanolig (BBaCh).

Pwrpas y benthyciad yw creu neu ddatblygu busnes ac nid i ad-dalu dyledion neu fenthyciadau eraill.  


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: