Maint, cyfnod a diogelwch y buddsoddiad
Bydd Cronfa Fenthyciadau Gwynedd yn gronfa o hyd at £3 miliwn.
Bydd benthyciadau bychan rhwng £25k a £100k ar gael, ynghyd â chyfle i fenthyca symiau mwy (Benthyciadau Ased hyd at £750k) cyn belled ag y cefnogir hyn â gwarant yn seiliedig ar ased gwerthfawr (tir ac adeiladau fel arfer).
Cyfnod arferol benthyciad bychan fydd rhwng 36 a 60 mis; bydd benthyciad Ased fel rheol yn para am gyfnod o 60 mis neu fwy.
Dylid sicrhau sicrwydd dros asedau busnes ble y bo modd er y derbynnir y gall fod yn gyffredin cael arwystlon ar ôl bancwyr y cwmni. Fodd bynnag, wrth gydbwyso risgiau’r perchennog yn erbyn risgiau’r Gronfa, dylid sicrhau gwarantau personol (er nid sicrwydd dros asedau personol), pan fo hynny’n briodol.
Gellir caniatáu seibiant ad-dalu cyfalaf am hyd at 3 mis (ac am hyd at 6 mis mewn amgylchiadau arbennig) yng nghyswllt benthyciadau bychan. Ni chaniateir seibiant ad-dalu cyfalaf yng nghyswllt benthyciadau Ased dros £100k.
Busnesau sy’n gymwys i dderbyn cefnogaeth
Mae’r Gronfa yn gweithredu y tu mewn i ffiniau Cyngor Gwynedd ac fe ddylai pob busnes fod â’i ganolfan weithredol neu fod â nifer sylweddol o’i weithwyr parhaol llawn amser wedi’u lleoli y tu mewn i ffiniau Gwynedd.
Cyfyngir cymhwyster i fusnesau (yn cynnwys mentrau cymdeithasol), i Fusnesau Bach neu Ganolig eu maint (BBC). Mae’r rhain yn fusnesau:
- sydd â llai na 250 o weithwyr a throsiant o hyd at €50 miliwn neu fantolen o hyd at €43 miliwn (diffiniad y UE o gwmni canolig ei faint.);
- sy’n medru dangos eu bod wedi bod yn aflwyddiannus wrth geisio sicrhau arian yn y sector masnachol;
- sydd â chynlluniau busnes dichonadwy
- rhaid i holl ymgeiswyr y gronfa dystio bod ganddynt bolisïau/datganiadau amgylcheddol, iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal ac anabledd yn eu lle.
Pwrpas y benthyciad hwn yw rhoi cefnogaeth i greu, ailstrwythuro, datblygu neu ehangu busnes ac ni fydd ymgeiswyr sy’n dymuno ei ddefnyddio i glirio dyledion neu fenthyciadau cyfredol gan fenthycwyr (er enghraifft, fel mecanwaith ar gyfer rheoli dyled wael), yn gymwys.
Yn ogystal, rhaid i’r holl fusnesau sy’n gymwys i gael mynediad at y gronfa ddangos eu potensial drwy gynnig tystiolaeth o bump o’r nodweddion a ganlyn, fan leiaf:
- Dyhead ac agwedd yr entrepreneur, perchennog/rheolwr ac uwch reolwyr
- Gallu a chapasiti’r tîm arweiniol
- Chwilio am arian o ffynonellau allanol
- Tystiolaeth o lyfr archebion cadarn
- Potensial yn y galw gan gwsmeriaid
- Gwybodaeth drwyadl am y diwydiant a’r sector
- Pwrpas twf clir – e.e. buddsoddi, arloesi, ehangu, ailstrwythuro
- Tystiolaeth o’r parodrwydd a’r gallu i arloesi
Yn gyffredinol, bydd pob sector yn gymwys i dderbyn cymorth gan y Gronfa; er gwaetha’r ffaith bod llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn gosod cyfyngiadau ar y sectorau busnes a bydd angen i’r Gronfa brofi ei gallu i wneud buddsoddiadau yn y sectorau hyn. Er enghraifft, os yw arian Cydgyfeiriant yn cael ei dderbyn naill ai fel rhan o swm y Gronfa neu i gefnogi rheolaeth y Gronfa, bydd angen eithrio sectorau anghymwys.
Nodwch: Pe derbynnid arian Cydgyfeiriant naill ai fel rhan o swm y Gronfa neu fel cefnogaeth i reoli’r Gronfa, bydd angen i sectorau anghymwys gael eu heithrio fel a ganlyn:
- Y rhai a ddiogelir gan gyfyngiadau sector y Gymuned Ewropeaidd; yn cynnwys ffibrau synthetig, tecstilau a dillad, adeiladu llongau, glo a dur, amaethyddiaeth a phrosesu bwyd
- Banciau a chwmnïau yswiriant
- Sefydliadau addysg sy’n darparu addysg oedran ysgol
- Gall y mentrau sy’n cynnig addysg dechnegol neu hyfforddiant galwedigaethol fod yn gymwys
- Darpariaeth cyfleusterau lles cymdeithasol lleol e.e. ysbytai, cartrefi nyrsio, gorsafoedd tân, meithrinfeydd dydd, cyfleusterau gofal plant, cyfleusterau chwaraeon, parciau, llyfrgelloedd cyhoeddus oni bai eu bod yn gysylltiedig â gweithgareddau economaidd (e.e. mentrau cymdeithasol)
- Cyfleusterau Manwerthu – ac eithrio eithriadau prin, er enghraifft, ble mae darpariaeth neu welliant allanfa fanwerthu yn rhan hanfodol bwysig o strategaeth datblygu economaidd gyffredinol
- Adeiladu ac adnewyddu tai yn gyffredinol, er fel rhan o strategaeth ehangach i adfywio’r ardal, gall gwella ystadau allanol ac adeiladau amlwg mewn lleoliadau allweddol gael eu cefnogi pan mae cyswllt agos rhyngddynt hwy ag amcanion y Rhaglen Cydgyfeiriant.
Prisiau
Codir cyfradd llog o 7.5%, 10% neu 12.5% ar yr holl fenthyciadau yn dibynnu ar amgylchiadau’r busnes (adolygir yn flynyddol, fan leiaf, yn seiliedig ar gyfraddau llog y farchnad a llwyddiant y busnesau i ad-dalu’r benthyciadau i Gyngor Gwynedd).
Bydd yn rhaid codi Ffi Trefnu o hyd at 1% am fenthyciadau unigol i dalu am unrhyw gostau perthnasol – i’w adolygu’n flynyddol, fan leiaf.